Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi gwneud hyny lawer gwaith, ac yntau er mwyn cadw cymydogaeth dda, yn gorfod adrodd rhywbeth iddi gyda gwyneb siriol, er, os rhaid dweyd y gwir, mai ei ddymuniad fuasai ei hanerch—"Ewch i'r——a gadewch lonydd i mi." Wedi eistedd yn llonydd am ryw bum' munyd, ymddangosai Enoc yn fwy cynhyrfus nag arferol—crychai ei dalcen a gwthiai ei ddwylaw i waelodion pocedau ei drywsers. Yna cododd ar ei draed, estynodd ei bibell, gan ei llenwi yn dyn, a mygodd yn galed nes pardduo nenfwd yr office. Yna poerodd yn sarcastic i lygad y tân. Pwysleisiodd yn bendant gyda'i ben, a phoerodd eilwaith gan ei underlinio, fel pe buasai yn gwneud rhyw benderfyniad cadarn yn ei feddwl, ac yn rhoi y diffoddyr yn dragwyddol ar rywun neu gilydd. Buasai yr olwg arno yn peri i estron gredu ei fod yn ŵr penderfynol a meistrolgar iawn. Ond ar unwaith, fel pe buasai yn cofio pwy ydoedd, cyfododd Enoc ar ei draed yn wyliadwrus—agorodd gil y drws yn ddystaw, a gosododd ei glust ar y rhigol i wrando a oedd Marged yn cysgu, ac, wedi sicrhau ei hun mai dyna oedd y ffaith, gwenodd, a chauodd y drws drachefn yn esmwyth, ac, wrth ail eistedd, ebe fe wrtho ei hun, ond yn ddigon hyglyw i'r llygod glywed—"All right, Jezebel! Ond mae byw fel hyn yn humbug perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel black drwy'r dydd, ac i beth? Mae pob gwas sy' gen i yn fwy hapus na fi.

Diolch na wyr neb sut fyd sy arna i. Bydae pobl yn digwydd dod i wybod, fedrwn i byth ddangos y ngwyneb—mi awn i'r 'Merica, mi gymra fy llw. A pham y rhaid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd yr ydw i'n gneud yn well nag ambell un; a rydw i'n meddwl bydawn i'n cynyg: fy hun—wel, rydw i agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Ai nid ffwl o'r sort waetha ydw i? Ai nid y ffaith y mod i yn pendroni bob nos, ac yn adeiladu castelli yn'r awyr ynghylch Miss Trefor ydi'r achos o fy holl anghysuron! Digon gwir! Ond yr wyf am roi pen ar hyny heno—pen am byth bythoedd. I be y pendrona i? ddaw byth ddim byd o hyny, am wn—i. Mi faswn yn leicio bydase gen i dipyn mwy o wroldeb a gwynebgʻledwch—ond waeth—tewi—'does gen i ' run o'r ddau. Mi fase ambell un wedi mynu gwybod cyn hyn, ryw fodd neu gilydd, a fase rhyw obeth iddo, ac os na fase, yn rhoi clec ar ei fawd ac yn troi to other fields and pastures new. Ond sut mae Enoc wedi gneud? Caru yn ei ddychymyg, ar ei