Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben ei hun, heb symud bŷs na bawd i ddod â hyny i boint. Yr hen het gen i! Y fath drugaredd na ŵyr neb am feddyliau dyn! Ond y mae rhywbeth i'w ddeud o ochr Enoc,—mae hi'n uchel—ïe, waeth rhoi'r enw iawn arno—mae hi'n falch. Dydi hi ddim yn siarad efo rhai mwy ymhongar na fi, a mwy respectable, yn yr ystyr fydol o'r gair. Er ein bod yn myn'd i'r un capel, ac yn ’nabod ein gilydd er's blynyddoedd, neiff hi brin edrach arna i. Bydawn i ddim ond yn sôn am y peth wrthi,—wel, mi gwela hi! fydde fychan ganddi roi slap i mi yn y ngwyneb! Mae'n siwr ei bod—er nad oes dim sôn am hyny—yn edrach am rywun llawer uwch na grocer yn ŵr. Fe wyr pawb—ac fe wyr hithau—ei bod yn brydferth, ac fod hyd yn nod ei balchder yn gweddu iddi. Piti na faswn i yn ŵr boneddig? Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer o honi. Digon naturiol. Feily ’rydw ine. Capten Trefor, faint o bris yr ydach chi'n roi ar Miss Susi? Felly, Enoc Huws ydi'r highest bidder! Ond golygwn, for the sake of argument, fod hyny yn bosibl, ac hyd yn nod yn debygol, ac hyd yn nod yn ffaith, be fydde, canlyniad? Revolution yn fy holl amgylchiadau! Yn y lle cyntaf, fe fyddai raid troi Marged i ffwrdd, ac fe fydde raid cael dau blismon i neud hyny. Yn y lle nesa fe fydde raid ail-ffyrnishio'r tŷ o'r top i'r gwaelod, os nad cael darn newydd ato. Yn nesa at hyny, fe di'r tipyn arian sy gen i, a holl broffit y busnes, i gadw style i fynu! Am ba hyd y medrwn i ddal? am flwyddyn, hwyrach. Ond, le, dyna ffaith sobr i'w deud,—pe byddai hyny yn bosibl, fe gai pob ffyrling fyn'd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am flwyddyn, ac os bu ffwl erioed, Enoc Huws ydyw hwnw! Ond aros di, Enoc, chei di ddim bod yn ffwl ddim yn hwy—mi rown ben ar y meddyliau gwag yna ar ol heno. Ni awn i feddwl am rywun arall mwy tebyg a chyfaddas i neud gwraig i siopwr — rhwfun na neiff hi ddim creu revolution, ac na fydd ganddi gywilydd myn'd tu ol i'r counter, a rhwfun a fydd yn ymgeledd ac yn gysur i mi. Ond yr wyt wedi deud fel yna lawer gwaith o'r blaen; do; ac yr ydw i am neud ar ol heno, deued a ddelo! Holo! pwy sydd yna rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? Ond mae'n rhaid i ryw bobol gael blino dyn ar ol adeg cau. A'r un rhai ydyn' nhw bob amser. Yr hen Fusus Bennett, neu'r hen Murphy, mi gymra fy llw. "

Fel yna y siaradai Enoc ag ef ei hun pryd y curodd rhywun ddrws y tŷ yn galed.