Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI

O BOBTU'R GWRYCH.

FEL y dywedwyd, curodd rhywun ddrws tŷ Siop y Groes, yr hyn a roddodd ben ar ymson Enoc Huws. yn y funyd clywai Enoc Marged yn llusgo ei hun ar hyd y lobi, gan rwgnach yn ei gwddf. Gwrandawai Enoc yn astud gan ddysgwyl clywed Marged yn cyhoeddi'r ddeddf uwch ben Mrs. Bennet neu yr hen Murphy am aflonyddu ar ol adeg cau. Yn lle hyny clywai hi yn dweyd " Dowch i mewn,"ac yn ebrwydd agorodd Marged ddrws yr office, yn ol ei harfer, heb guro, ac ebe hi

" Dowch i mewn y ngeneth i. Mistar — O! 'r annwyl dirion! rydach chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod—rydach chi'n siwr o ladd ych hun rw ddiwrnod! Dyma lythyr oddiwrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb."

Da i Enoc oedd fod haen o flawd ar ei wyneb, oblegid oni bai am hyny buasai Marged a'r eneth yn rhwym o sylwi ei fod wedi gwelwi y foment y crybwyllwyd enw Capten Trefor. Gyda dwylaw crynedig agorodd Enoc y llythyr, a darllenodd ef. Ni chynhwysai ond ychydig eiriau

"Ty'nyrardd.

" Anwyl Syr,—Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ol eich amrywiol orchwylion, ac os nad oes genych gwmni nas gellwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn dra rhwymedig i chwi pe cerddech can belled ag yma, gan fod genyf eisiau ymddiddan a chwi ar fater pwysig i chwi ac i minau. Disgwyliaf air gyda'r genad.

Yr eiddoch yn gywir,
RICHARD TREFOR."