Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda chryn anhawsder y gallodd Enoc ysgrifenu gair iw afon gyda'r eneth y deuai i Dy'nyrardd yn mhen haner awr. Cafodd ddigon o bresenoldeb meddwl i enwi "haner awr" er mwyn cael amser i ymolchi ac ymwisgo. Gofynodd Enoc i Marged am ganwyll.

"Be sy gan y Capten isio gynoch chi, Mistar?" gofynai Marged gyda'i hyfdra arferol.

"Busnes," ebe Enoc yn frysiog, yr hwn air a arferai actio ar Marged fel talisman. Ond nid oedd ei effeithiau, y tro hwn, lawn mor foddhaol, ac ebe hi

"Busnes, yr adeg yma o'r nos? pa fusnes sy gynoch chi i neud rwan? "

"Mae'r Fly Wheel Company wedi myn'd allan o'i latitude, a mae rhywbeth y mater efo'r bramoke,"ebe Enoc yn sobr. Nid oedd gan Marged, wrth gwrs, ddim i'w ddweyd yn erbyn hyn, a chyrchwyd y ganwyll ar unwaith. Ond yr oedd meddwl Enoc yn gynhyrfus iawn, a'i galon yn curo yn gyflym, a'i nerves fel ffactri.

Wedi iddo ymolchi gorchwyl mawr oedd gwisgo ei ddillad goreu, a phan geisiai roi coler lân am ei wddf tybiodd nad allai byth ddod i ben, gan mor dost y crynai ei ddwylaw. Meddyliodd, fwy nag unwaith, y buasai raid iddo alw ar Marged i'w helpio. Llwydiodd o'r diwedd, ond nid cyn bod y chwys yn berwi allan fel pys o'i dalcen. Wedi twtio ei hun oreu y gallai prysurodd i lawr y grisiau, ac er ei syndod y peth cyntaf a welai oedd Marged gyda nodyn Capten Trefor yn ei llaw ac yn ei simio fel pe buasai yn ceisio ei ddarllen, er na fedrai hi lythyren ar lyfr. Pleser Enoc a fuasai rhoi bonclust iddi, ond ffrwynodd ei hun fel y gwnaethai ganoedd o weithiau yn flaenorol.

"Mi faswn ine yn leicio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes," ebe Marged yn ddigyffro wrth roi'r nodyn ar y bwrdd a gadael yr ystafell.

"Yr ydych chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwdsach," ebe Enoc rhyngddo âg ef ei hun wrth wisgo ei esgidiau.

Cyn cychwyn allan darllenodd Enoc lythyr Capten Trefor eilwaith, a phan ddaeth at y geiriau—y rhai nad oedd efe wedi sylwi yn fanwl arnynt o'r blaen—"Mae genyf eisiau ymddyddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minau," gwridodd at ei geseiliau. Beth allai fod ystyr y geiriau hyn gofynai Enoc. A oedd yn bosibl fod ei feddyliau am Miss Trefor, drwy ryw