Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd nas gwyddai efe, wedi dyfod yn hysbys i'r Capten? Teimlai Enoc yn sicr nad ynganasai air am hyn wrth neb byw bedyddiol. Ac eto rhaid, meddyliai, fod y Capten wedi dyfod i wybod y cwbl. A oedd ei wyneb neu ei ymddygiad wedi ei fradychu? neu a oedd rhywun wedi darllen ei dumewn ac wedi hysbysu y Capten o hyny? Yr oedd y Capten ei hun yn ŵr craff iawn, ac, efallai, yn dipyn o thought reader. Ai tybed ei fod wedi ei gael allan, ac yn ei wahodd i Dy'nyrardd i'w geryddu am ei ryfyg: A oedd efe ei hun wedi bod yn siarad yn ei gwsg, a Marged wedi ei glywed, a hithau wedi bod yn clebar? A chant a mwy o gwestiynau ffolach na'eu gilydd a ofynodd Enoc iddo ei hun, ac edifarhaodd yn ei galon addaw mynd i Dy'ngrardd. Meddyliodd am lunio esgus dros dori ei addewid, ac anfon nodyn gyda Marged i'r perwyl hwnw. Ond cofiodd yn y funud nad allai hi wisgo ei hesgidiau o herwydd fod ei thraed yn arfer a chwyddo tua'r nos, ac na ddeuent i'w maint naturiol hyd y bore. Yr oedd yr haner awr i fynu, ac yr oedd yn rhaid iddo fyned neu peidio. Edrychodd yn y drych bychan oedd ganddo yn yr office, a sylwodd fod ei wyneb yn ymddangos yn gul a llwyd, ac yn debyg o wneud argraph ar y neb a'i gwelai na byddai ei berchenog fyw yn hir. Rhwbiodd ei fochau, a chrynhôdd hyny o wroldeb ag a feddai, a chychwynodd am Dy'nyrardd. Gobeithiai Enoc, pa beth bynag arall a ddi gwyddai, na welid ef gan Miss Trefor y noson hono. Teimlai mai hon oedd yr ymdrech fwyaf a wnaethai efe erioed, ac fod ei ddedwyddwch dyfodol yn dibynu yn hollol ar ei ymweliad hwn a Thy'nyrardd. Rhyngddo ag ef ei hun, arferai alw ei hun yn "hen gath," ond ni ddychmygodd ei fod y fath hen gath hyd y noswaith hon, oblegid pan gurai efe ddrws Ty'nyrardd teimlai ei goesau yn ymollwng dano, a bu raid iddo bwyso ar y mur rhag syrthio, tra yr oedd yn aros i rywun agor iddo. Arweiniwyd ef i'r ystafell a elwid gan yCapten Trefor yn smoke room; ac nid anhyfryd gan Enoc oedd canfod nad oedd neb ynddi ond y Capten a Mr. Denman yn unig. Yr oedd Mr. Denman wedi ei ddwyn yno yn ddiamheu, meddyliai Enoc, fel tyst, a theimlai fod y mater wedi cymeryd gwedd bwysig yn meddwl y Capten, ac ni fu yn well ganddo erioed gael cadair i eistedd arni, yr hon a estynwyd iddo gan y Capten ei hun yn siriol a chroesawus.

"Rhaid," ymsyniai Enoc, "fod y Capten yn edrych yn