Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffafriol ar y peth, neu ynte y mae yn rhagrithio er mwyn cael allan y gwir."

"Yr wyf yn gobeithio, Mr. Huws," ebe'r Capten, "eich bod yn iach, er, mae'n rhaid i mi ddweyd—dydi hyny ddim yn gompliment, mi wn— y mod wedi eich gweled yn edrych yn well. Gweithio yn rhy galed yr ydych, mi wn. Yr ydych chwi, y.bobl yma sydd yn gwneud yn dda, mae arnaf ofn, yn gosod gormod ar yr hen gorphyn. Mae'n rhaid i'r corph gael gorphwys, neu mae'n rhaid talu'r dreth yn rhywle, chwi wyddoch. Rhaid edrych, fel y byddant yn dweyd, ar ol number one. Mae eich busnes yn fawr, mi wn, ac mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ol. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws. Mi fyddaf bob amser yn dweyd mai nid gwneud arian ydyw pobpeth yn yr hen fyd yma; ac er fod yn rhaid eu cael ("Mae o isio gwbod faint ydw i werth,' ebe Enoc ynddo ei hun), mae eisiau i ni gofio bob amser fod byd ar ol hwn, onid oes, Mr. Denman? Tra mai'n dyledswydd yw gwneud y goreu o'r ddau fyd, mae eisiau i ni gymeryd gofal o'r corphyn, fel y dywedais, a pheidio, pan mae'r haul yn gwenu arnom, syrthio i fedd anamserol. Yr wyf yn meddwl, Mr. Huws—maddeuwch fy hyfdra — mai dyna ydyw eich peryg l chwi. Mae'r byd yn gwenu arnoch ("Mae o'n treio pympio,' meddyliai Enoc ), ond cofiwch na wneiff eich natur ddal ond hyn a hyn o bwysau, ac os rhowch ormod power ar y machinery mae o'n siwr o dori."

" Yr wyf—yr wyf—wedi hyrio—tipyn—achos 'doeddwn i ddim—isio'ch—cadw chi, Capten Trefor—yn aros am danaf. Yn wir—'rwyf—wedi colli 'ngwynt—allan o bwff—fel y byddan nhw'n deyd—a minau ddim—yn rhw Samson o ddyn," ebe Enoc gydag anhawsder. "Chwi a fuoch yn ffol, Mr. Huws," ebe'r Capten, "achos nid ydyw haner awr nac yma nac acw yr adeg yma ar y nos. Nid oedd eisiau i chwi brysuro o gwbl; yn wir, y fi ddylasai ddyfod atoch chwi, Mr. Huws, oblegid y mae â fyno y peth yr wyf eisiau cael ymddyddan â chwi yn ei gylch fwy â mi—yn yr oed yr ydw i ynddo—nag y chwi. Yn y gwanwyn nesaf, os Duw a'i mụn, mi fyddaf yn—wel, yn fy oed i fe ddylai dyn wybod rhywbeth—mae ei feddwl wedi ei wneud i fynu, ac nid ychydig wnaiff ei droi " (" Mae hi'n edrach yn ddu arna' i, " sibrydai Enoc yn ei galon).

" Mae y mater, Mr. Huws, " ychwanegai y Capten, "yr wyf