Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eisiau cael ymddrddan difrifol â chwi yn ei gylch yn agos iawn at fy nghalon, fel y gŵyr Mr. Denman. Mewn ffordd o siarad, dyma fy unig blentyn, a pha beth bynag a fydd eich penderfyniad chwi nid wyf am ollwng fy nghafael o hono. ('Mae hi yn y pen arna'i,' meddyliai Enoc). Mae Mr. Denman, fel y gwyddoch, Mr. Huws, yn dad i blant, a rhaid iddo ef, fel fy hunan, gymeryd y dyfodol a chysur ei deulu i ystyriaeth, ac y mae ef o'r un meddwl a fi yn hollol ar y pwnc yma. 'Dydi'r mater yr wyf eisiau cael siarad â chwi yn ei gylch, Mr. Huws, ddim yn beth newydd i mi—nid rhywbeth or doe neu echdoe ydyw. ('Digon gwir,' meddyliai Enoc, 'ond sut yn y byd y daeth o i wybod?') Na, yr wyf wedi colli llawer nos. waith o gysgu o'i herwydd, er na chrybwyllais i air am y peth hyd yn nod wrth Mrs. Trefor, i'r hon y dylaswn fod wedi ei hșsbysu gyntaf, gan ei fod yn dwyn cysylltiad â hi lawn cymaint a mi fy hun, can' belled ag y mae cysur teuluaidd yn y cwestiwn. Ond chwi wyddoch, Mr. Huws, er mai hen lanc ydych—begio'ch pardwn, 'dydach chi ddim yn hen lanc eto, nac yn meddwl bod yn un, gallwn dybied—ond er mai dyn dibriod ydych, chwi wyddoch nad ydyw merched yn edrych ar bethau fel mae dynion yn edrych. Edrych y mae merched trwy eu calonau—sentiment ydyw'r cwbl—ond y mae yn rhaid ini, y dynion, edrych ar bethau trwy lygad rheswm. Sut yr wyf yn teimlo ydyw gofyniad merch, ond sut y dylai pethau fod ydyw gofyniad dyn. ('Mi leiciwn byddae o yn dwad at y point, a darfod â fo,' meddai Enoc yn ei frest). Ond dyna oeddwn yn ei ddweyd, 'dydi'r mater yr wyf eisiau cael ymddyddan â chwi yn ei gylch ddim yn beth newydd i mi, a Mr. Denman ydyw yrunig un y soniais i air erioed wrtho am dano, onide, Mr. Denman! "

"Ië," ebe Mr. Denman, "ac y mae'n rhaid i mi ddweyd fod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn yn credu y peth yn y dechreu; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn ben derfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei anog i anfon am danoch yma heno.Yr oeddwn yn meddwl mai gwell oedd iddo eich gweled, Mr. Huws, ar y mater, nag ysgrifenu llythyr atoch."

"Yn hollol felly," ebe’r Capten. "Yr oeddym ein dau yn cydfeddwl mai gwell oedd i ni ddyfod i wynebau ein gilydd er mwyn cael dealldwriaeth briodol ar y pwnc. Hwyrach,