Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Enoc yntau heb erioed o'r blaen brofi y fath beth, fel y neidiodd y dagrau i'w lygaid wrth iddo ei lyncu.

"Peidiwch a chrio, Mr. Huws bach, mi ddowch yn well toc; dowch, cymerwch o i gyd," ebe Susi yn garedig neu yn ystrywgar.

A'i gymeryd a wnaeth; a phe buasai cynwysiad y gwydryn yn wenwyn marwol, ac yntau yn gwybod hyny, nis gallai efe ei wrthod o'r llaw wên, dyner hono.

"Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, a mi ddowch yn well yn y munyd," ebai Miss Trefor.

"Thank you," ebe Enoc yn floesg. Yn y man, teimlai ei hun yn hapus dros ben. Yn mhen ychydig funydau, teimlai yn awyddus i roi cân, a lled-ddisgwyliai i rywun ofyn iddo ganu, a dechreuodd sugno ei gôf pa gân a fedrai efe oreu, a phenderfynodd ar "Y Deryn Du Bigfelen," os gofynid iddo. Gan nad oedd neb yn gofyn iddo ganu, ni thybiai yn weddus gynig o hono ei hun. Wedi hir-ddisgwyl, daeth drosto deimlad o syrthni, ond ofnai gau ei lygaid rhag у buasai yn cysgu, oblegid cofiai ei fod yn chwyrnwr, ac ni fynasai am fil o bunau i Susi wybod ei foi yn perthyn i'r rhyw hwnw o greaduriaid. Tybiai, weithiau, ei fod mewn clefyd, a phryd arall, mai breuddwydio yr oedd efe. Ond ni allai fod yn breuddwydio, canys yr oedd yn sicr fod Susi, Capten Trefor, a Mr. Denman, yn edrych arno. Weithiau ymddangosent yn mhell iawn oddiwrtho, ac yn fychain iawn; bryd arall, yn ei ymyl—yn boenus o agos—yn enwedig y Capten a Mr. Denman. Teimlai yn awyddus i siarad a Susi, a dweyd ei holl feddwl wrthi, a gwyddai y gallai wneud hyny yn hollol ddiofn a hyderus, oni bae ei fod yn gweled ei thad a Mr. Denman o flaen ei lygaid. Yr oedd efe yn berffaith sicr yn ei feddwl ei fod ar delerau da efo phob dyn ar wyneb y ddaear, ac y gallai wneud araith ar unrhyw bwnc yn hollol ddifyfyr! Am ba hyd y bu efe yn y cyflwr hwn ni fedrodd byth gael allan, ac nid ymhoffai adgofio yr amgylchiad. Gwylid ef yn fanwl gan y Capten, Susi, a Mr. Dennan, a phan welsant arwyddion ei fod yn dyfod ato ei hun, ebe'r Capten "Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"

"All right," ebe Enoc.

"Mi wyddwn," ebe'r Capten, "y gwnaethai dropyn ddaioni chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham,