Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Susi, na wnaiff o ddaioni i minau? ac wedi i chwi ei estyn i mi, chwi ellwch chwi, Susi, fyn'd, gael i ni orphen y busnes, hyny ydyw, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd yn mlaen."

"Certainly," ebe Enoc yn fywiog, "yr ydwi yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol; ac yr ydw i yn addo i chi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down i hyny, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno. Fum i 'rioed yn teimlo 'run fath o'r blaen. Yn gyffredin, yr ydw i'n ddyn lled gryf, ac yn gweithio can gleted ag odid i neb, ond fedrwn i rywfodd mo'i—

Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws," ebe’r Capten,cyn i Enoc gael gorphen y frawddeg—"gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pa'm y dylai gŵr fel chwi—(thank you, Susi, chwi ellwch chwi fyn'd yrwan)—ïe, dyna pa'm y dylai gŵr fel chwi gael rhywun i gymeryd rhan o'ch baich a'ch gofal, ac i edrych ar ol eich cysuron. Dyma ydyw eich angen mawr, Mr. Huws, ac ond i chwi wneud yr angen yna i fynu, chwi a fyddech yn ddyn dedwydd. Beth a ddaethai o hono i, syr, oni bae am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd er's llawer dydd. Maddeuwch y sylw, Mr. Huws, ond, fe ddylai dyn sydd wedi cyrhaedd ei—wel, dyweder fy oed i, fod yn dipyn o philosopher. 'Dydw i fy hun yn gweled dim dyben nac amcan teilwng o ddyn mewn bywyd sengl. Chwi wyddoch, Mr. Huws—oblegid yr ydych chwi, fel fy hunan, yn un sydd wedi darllen llawer—pan mae dyn yn ymdroi ynddo ei hun, mewn ymchwiliad am dedwyddwch, ei fod bob amser yn methu ei gael; ond pan gyfeiria ei ymdrechion i wneud rhai eraill yn ddedwydd, mai dyma'r pryd yr enilla efe hunan—ddedwyddwch. Er engraifft—oblegid nid oes dim yn well nag engraifft—pe buaswn i wedi gwneud hunan—ddedwyddwch yn brif amcan fy mywyd, a phe buasai Mrs. Trefor wedi gwneud yr un modd, buasem ein dau yn rhwym o fod wedi aflwyddo. Ond gan mai amcan mawr bywyd Mrs. Trefor a minau ydyw gwneud y naill y llall yn hapus, yr ydym wedi enill ein dedwyddwch yn ein gilydd. Ac y mae hyn yn hollol gyson â dysgeidiaeth ein Harglwydd am hunanymwadiad, gan nad pa mor hwyrfrydig ydyw y byd i gredu yr athrawiaeth hono. Ai nid felly mae pethau'n bod, Mr. Denman? "

"Chlywes i neb yn gosod y peth yn fwy teidi. Un garw