Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

———————

NID cymhwys, yn ddiau, yr ymddengys ysgrifenu "Rhagymadrodd" i lyfryn o natur Profedigaethau Enoc Huws. Ac eto, prin yr ystyrir llyfr Cymraeg yn gyflawn hebddo, mwy nag yr ystyrid pregeth Gymraeg amser yn ol, heb fod ynddi yn gyntaf, yn ail, yn drydydd, ac yn olaf.

Y mae i'r llyfr hwn ei amcan; ac os nad ydyw yn ddigon eglur heb i mi ei enwi, ni wna hyny ond dangos fy mod wedi methu yn fy nghais. Bydd yn syn genyf, hefyd, os na wêl rhai rhanau o'n gwlad, yn enwedig Sir Fflint, pa beth oedd yn fy mryd wrth ei ysgrifenu. Pa fodd bynag, mi adawaf i'r hanes lefaru drosto ei hun.

Goddefer i mi wneud un sylw, gan fod hwn yn gyfleustra rhagorol i'w wneud, ac na welais, hyd yr wyf yn cofio, neb yn galw ein hystyriaeth ato: yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf, mi gredaf, na wâd neb, sydd yn gwybod rhywbeth am danom, fod llenyddiaeth Gymraeg wedi adfywio nid ychydig, ac wedi cyrhaedd safon uwch nag mewn unrhyw gyfnod blaenorol—o leiaf y mae yn fwy ëang a thoreithiog. Gyda'n holl fisolion, deufisolion, a'n chwarterolion, a'r holl lyfrau a ddygir yn feunyddiol drwy y wasg, heb sôn dim am ein newyddiaduron, ni faidd y philistiad mwyaf dienwaededig a gwyneb galed, tybed, ddyweyd nad oes genym, erbyn hyn, lenyddiaeth. Ystyrir ni, os nad ydwyf yn camgymeryd, yn genedl o deimladau naturiol bywiog, ac o ddychymyg gref. Ond rhyfedd! nid oes yn ddiweddar ddim neillduol a hynod. o dda wedi ymddangos mewn chwedloniaeth wir Gymreig. Rhaid i ni fyn'd yn mhell yn ol i gael hyny. Mae yn wir fod genym ugeiniau o ffugchwedlau wedi ymddangos yn ein