Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—i roddi tamaid o fara i rai canoedd o'n cydgenedl, ac i helpu ereill i ddarparu ar gyfer diwrnod gwlawog—yn mhlith y rhai olaf yr wyf yn eich ystyried chwi, Mr. Huws, ac hefyd cysylltiad a fu yn foddion, nid yn unig i ddarparu ar gyfer y corph, ond, mewn ffordd o siarad, ac yn wir, fel mater o ffaith, a fu yn gefn ac yn swcwr i anghenion ysbrydol y gymydogaeth, drwy ein galluogi mewn gweinidogaeth gyson a difwlch gan nad beth a ddywedwn am ei hansawdd, i ddiwallu, neu o leiaf, i roddi cyfleustra i ddiwallu, anghenion yr enaid, yr hyn, mae'n rhaid i ni oll gydnabod, ydyw y peth penaf, pa un a ystyriwn ni bersonau unigol neu gymdeithas fel cymdeithas." ("I b'le yn y byd mawr mae o'n dreifio rwan? " gofynai Enoc iddo ei hun. ) " Hwyrach," ychwanegai y Capten, " na fyddwn yn mhell o fy lle pe dywedwn mai Pwllygwynt ydyw asgwrn cefn y gymydogaeth hon mewn ystyr fasnachol, ac hwyrach na chyfeiliornwn po dywedwn hefyd eich bod chwi, yn mysg ereill, wedi manteisio nid ychydig oddiwrth y Gwaith. Wel, syr, ffordd hir ydyw hono nad oes tro ynddi, fel y dywed y Sais, ac, fel yr wyf eisoes wedi egluro i Mr. Denman, oreu y gallwn i, cyn i chwi ddyfod i mewn, nid peth amhosibl, nac, yn wir, annbebygol, y gwelwch chwi a minau y dydd, er ein bod yn gobeithio'r goreu, pan fydd Pwllygwynt, mewn ffordd o siarad, a'i ben ynddo—oid am nad oes yno blwm, ac nid—er mai fi sydd yn dweyd hyny—am nad ydyw y Gwaith yn cael edrych ar ei ol—can belled ag y mae yn bosibl edrych ar ei ol pan mae dyn dan reolaeth estroniaid, nid yn unig o ran iaith, ond o ran profiad a gwybodaeth ymarferol, fel y gŵyr Mr. Denman. Mi welaf ar eich gwedd, Mr. Huws, eich bod wedi eich cymeryd by surprise, fel y dywedir, a hyny yn ddigon naturiol. Ond cofiwch nad ydwyf yn hysbysu hyn i chwi fel mater o ffaith; yn wir, yr wyf yn gobeithio na chymer hyny le yn eich oes chwi a minau. Ond, fel y dywedais cyn i chwi ddyfod i mewn, fyddai ddim yn rhyfedd genyf—yn wir, mae genyf sail i ofni mai i hyny y daw hi — fyddai ddim yn rhyfedd genyf byddae'r Saeson yna—a chwi wyddoch, Mr. Huws, mai Saeson ydyw'r oll o'r cwmpeini, oddigerth Mr. Denman a fy hunan, fel mae'r gwaethaf, ac fe ŵyr Mr. Denman pa'm yr wyf yn dweyd fel mae'r gwaethaf,'—fyddai ddim yn rhyfedd genyf, meddaf, byddae'r Saeson yna yn rhoi'r Gwaith i fynu cyn pen mis, er y byddai