Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny yn un o'r pethau ffolaf ar wyneb daear, ac yn groes iawn i fy meddwl i—nid yn unig am y dygai hyny deuluoedd lawer i dlodi, ac y teimlai y gymydogaeth oddiwrtho yn dost, ond am y byddai yn sarhad, i raddau mwy neu lai, ar fy ngharitor i yn bersonol, o herwydd fy mod ar hyd y blynyddoedd, fel y gwyddoch, yn dal i ddweyd, ac mi ddaliaf eto i ddweyd, fod yn Mhwllygwynt blwm, a phlwm mawr, pe cymerid y ffordd iawn i fyn’d ato. ('Beth sydd a wnelo hyn i gyd d Susi a finau?' gofynai Enoc iddo ei hun). Nid oes amser heno, Mr. Huws, i fyn'd i mewn i fanylion, ac nid oes eisieu i mi ddweyd fod hyn i gyd in confidence, ar hyn o bryd, beth bynag. Ond y tebygolrwydd ydyw y bydd diwedd buan ar Bwllygwynt, a phryd bynag y cymer hyny le—hwyrach y cymer le yn mhen y mis, neu yn mhen y flwyddyn—ond pa bryd bynag y cymer le, fe ellir crynhoi y rheswm am dano i hyn—fel y gwyr Mr. Denman—am nad allaf gael fy ffordd fy hun, ac fod y Saeson sydd yn byw yn Llunden yn meddwl y gwyddant sut i weithio Pwllygwynt yn well nag un sydd wedi treulio haner ei oes dan y ddaear. I mi, Mr. Huws, ei roi i chwi mewn cneuen, mae y cwbl yn d’od i hyn—nad allaf gael fy ffordd fy hun o drin y Gwaith. Fy ffordd i a fuasai cario y Gwaith yn mlaen, a hyny ar ddull hollol wahanol i'r ffordd y cerir ef yn mlaen yn awr, nes d’od o hyd i'r plwm, yr hwn sydd yno mor sicr a'ch bod chwi a minau yma yn awr. Ond ffordd pobl Llunden fydd, mae arnaf ofn, rhoi'r Gwaith i fynu, am nad oes ganddynt amynedd i aros. Mi welaf, Mr. Huws, y bydd raid i mi brysuro, er y buasai yn dda genyf fyned i fewn yn fanylach i'r pethau. Y pwnc ydyw hwn: 'does dim yn well na bod yn barod ar gyfer y gwaethaf." (Yr oedd Enoc yn dechreu canfod i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd efe wedi oeri gryn raddau.) "Rhag ofn mai y gwaethaf a ddaw—rhag ofn mai â'i ben ynddo y cawn Bwyllygwynt, a hyny ar fyrder, ac er mwyn, os cymer hyny le, gwneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer y degau o deuluoedd sydd yn dibynu yn hollol ar y Gwaith, ac, yn wir, er mwyn masnachwyr ac ereill, yr wyf wedi sicrhau—nid gyda golwg ar hunan—les, cofiwch, oblegid mi gaf fi damaid, tybed, am yr ychydig sydd yn ngweddill o fy oes i, ac fe ddylai pob dyn yn fy oed i fod uwchlaw angen—nid er mwyn fy hun, meddaf, yr wyf wedi sicrhau y virgin ground—neu, mewn geiriau ereill, lle y gallwn, gydag