Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac, yn sicr, ni fuasai wedi dweyd ei fod yn barod "i entro i unrhyw arrangement rhesymol," nac wedi sôn am "berthynas agosach," a phethau ffôl felly, pe gwybuasai am ba beth y siaradai y Capten. Pan ofynodd y Capten y cwestiwn yn syth iddo, nid oedd Enoc yn gweled ei ffordd yn glir i ddyfod allan o'r dyryswch, ac er mwyn cael amser i fyfyrio, efe a anogodd y Capten i egluro ei hun yn fanylach, yr hyn a wnaeth y gŵr hwnw mewn brawddegau hirion, baglog a chwmpasog am ystod chwarter awr arall. Yna ebe Enoc—a theimlai ei fod yn tori ar ei arferiad gyffredin, oblegid ei arfer a fyddai dweud y gwir yn syth a gonest—

"Yr oeddwn yn dyfalu o'r dechreu, Capten Trefor, mai Gwaith mine oedd genych mewn golwg, ac, fel y dywedais, pan fydd pwnc o fusnes ar y bwrdd, yr wyf bob amser yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol—hyny ydyw, os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhesymol, ac yn debyg o droi allan yn llwyddianus—ni byddaf yn ol o'i daclo. Ond y mae yn rhaid i'r peth ymddangos i mi yn rhesymol cyn yr ymyraf ag ef. Hyd yn hyn, gyda busnes, nid ydwyf wedi gwneud llawer o gamgymeriadau, ac ni fûm erioed yn euog o roi naid i'r tywyllwch. Ar y llaw arall, y mae rhyw gymaint o dywyllwch yn nglŷn â phob anturiaeth (cofiai Enoc o hyd am Susi), oblegid heb hyny ni fyddai yn anturiaeth o gwbl; ac weithiau, mae y tywyllwch yn meddwl yr anturiaethwr ac nid yn yr anturiaeth ei hun. Gall y 'fentar' yr ydych yn sôn am dani fod yn dywyll iawn i mi, nid, hwyrach, am ei bod felly ynddi ei hun, ond am nad wyf fi yn meddu llygaid Capten Trefor i'w gweled yn ei holl ranau. Hwyrach, pan y down i berthynas agosach, os byth ydaw hi i hyny, fel y dywedais o'r blaen, y bydd y fentar yn ymddangos yn oleu iminau. Wrth gwrs, y mae gwaith mwn yn beth hollol ddiethr i mi, ac felly y bu i ugeiniau o fy mlaen, mi wn, cyn iddynt ymgydnabyddu â'r peth. Mi gymeraf eich cynghor, Capten Trefor, mi gysgaf dros y mater, a chawn siarad am hyn eto. Mae yn ddrwg iawn genyf glywed am sefyllfa Pwllygwynt, ac y mae yn bwysig i mi, ac i ereill, fod rhywbeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaethaf, fel y dywedasoch."

"Mae yn dda genyf eich clywed yn siarad fel yna, Mr. Huws," ebe'r Capten. "Mae yn well genyf eich clywed yn dweyd yr ystyriwch y mater na phe buasech yn datgan eich