Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyn'd yn sâl. Wn i ddim be ddaeth drosto i—hwyrach mai hyrio gormod ddaru mi. Cymerwch chwithe ofal, Miss Trefor, a pheidiwch dyfod allan i'r awyr oer—mi fedraf ffeindio'r gate yn burion."

"O," ebe Miss Trefor, gan gerdded o flaen Enoc ar hyd llwybr yr ardd—"'dydw i ddim yn delicate."

Teimlodd Enoc y colyn, ac ebe fe yn gyflym—

"'Dydw inau ddim chwaith, fel rheol, ond faddeuwn i byth i mi fy hun pe cymerech chwi, Miss Trefor, anwyd wrth ddyfod i agor y gate i mi."

"Gobeithio," ebe Susi, "na chewch chwi byth achos i fod mor anhrugarog atoch eich hun. Os ydw i heb yr un fonet, mae gen'i ben caled, wyddoch, Mr. Huws. "

"Gobeithio nad ellir dweyd yr un peth am eich calon, Miss Trefor," ebe Enoc, gan geisio tori'r rhew.

"Fydd 'y nghalon i, Mr. Huws, byth yn gwisgo bonet achos dydi hyny ddim wedi d'od i'r ffasiwn eto," ebe Susi.

"Nid y fonet oedd yn fy meddwl, Miss Trefor, ond y c'ledwch," ebe Enoc.

" Mae hyny yn bur resymol, Mr. Huws, achos y mae'n hawddach dych’mygu am g’ledwch yn y meddwl nag am fonet yn y meddwl," ebe Susi.

" Un arw ydach chi, Miss Trefor," ebe Enoc, heb atebiad arall yn cynyg ei hun i'w feddwl.

"Thank you, Mr. Huws, "un arw ' fyddwn ni, yn Sir Flint, yn galw un fydd yn nodedig o hyll—neu wedi ei marcio yn drom gan y frech wen—tebyg i Marged, eich housekeeper chwi," ebe Susi.

"Digon gwir, Miss Trefor," ebe Enoc, " ond chwi wyddoch fod i rai geiriau dừau ystyr, ac nid yr ystyr ——"

"Dau ystyr, Mr. Huws?" ebe Susi, cyn i Enoc gael gorphen y frawddeg—"dywedwch fod i bob gair haner dwsin o ystyron genych chwi, y dynion, achos ’dydach chwi byth yn meddwl y peth ydach chwi'n ddeyd, nac yn deyd y peth ydach chwi'n feddwl, pan ddaw'ch geiriau a chwithau i wynebau eich gilydd."

"Mi ddywedaf hyn," ebe Enoc, gan alw hyny o alantri oedd yn ei natur i weithrediad, "mai angel ydach chi, Miss Trefor."

" Hyh!" ebe Susi, " angel syrthiedig, wrth gwrs, ydach chi'n feddwl, achos y mae dau ystyr i'r gair. Wel, bydaswn i