Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gwybod y b’asech chwi, Mr. Huws, mor gâs wrtho i, chawsech chwi ddyferyn o frandi—a mi gawsech farw ar y soffa,' y dyn brwnt gynoch chwi. Nos dawch, Mr. Huws," a rhedodd Susi i'r tŷ.

"Wel, yr hen jaden glyfar! A bydase hi heb i gloewi hi, wn i ddim be faswn i'n fedryd ddweyd mewn atebiad iddi," eba Enoc wrtho ei hun, fel y cerddai yn brysur tua chartref, a'i syniadau yn uwch am Miss Trefor nag y buont erioed. Ni feddyliodd efe am neb na dim ond am dani hi nes ei fod o fewn degliath i'w dy, pryd y croesodd Marged ei ddychymyg. Fel bachgen drwg wedi aros allan yn hwyr heb ganiatad ei fam, teimlodd Enoc yn anghyfforddus wrth feddwl am wynebu Marged, a dechreuodd ddychymygu am ryw air melus i'w rhoi mewn tymher dda.

Diangenrhaid ydyw dweyd nad oedd dwy awr o gysgu wrth y tân wedi lliniaru na phrydferthu dim ar Marged. Pan fyddai hi wedi cael awr neu ddwy o gyntun wrth y pentan, glynai ei hamrantau wrth eu gilydd fel pe buasent wedi eu sicrhau gan gwyr crydd, a byddai raid iddi ddefnyddio ei migyrnau yn egnïol am enyd cyn y gallai agor ei llygaid. Wedi myn'd trwy yr oruchwyliaeth, a ffroenochi yn anwydog am amser, meinhaodd Marged ei llygaid, crychodd ei thalcen, ac edrychodd ar y cloc, ac ebe hi—

"Wel, yn eno'r rheswm anwyl, mistar, lle buoch chi tan 'rwan? Be bydaswn i ddim wedi rhoi digon ar tân, on fase ma le cynes i chi! A wn i ddim be naeth i mi feddwlam neyd tân da, achos feddylies 'rioed y basech chi allan dan berfedd y nos fel hyn."

"Yr ydach chi bob amser yn feddylgar iawn, Marged," ebe "Yn wir, mae'n biti mawr, Marged, na fasech chi wedi priodi—mi neuthech wraig dda, ofalus."

Edrychodd Marged yn foddhaus, a thybiodd Enoc ei fod wedi gwneud good hit, ond buasai yn well iddo dori ei fys a dyoddef ei thafod drwg na siarad fel y darfu. Teimlai Enoc yn y dymher oreu y buasai ynddi er's llawer blwyddyn. Yr oedd, o'r diwedd, wedi llwyddo i gael rhoi ei big i mewn yn Nhy'nyrardd, a chredai na byddai dim dyeithrwch rhyngddo ef â Miss Trefor mwyach, ac yr oedd mwyneidd-dra Marged yn dwyshau ei ddedwyddwch nid ychydig. Awyddai yn fawr am i Marged fynd i'w gwely er mwyn iddo gael mwynhau a