Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gloddesta ar ei feddyliau mewn unigrwydd, ac adeiladu castell newydd spon. Ond nid oedd Marged landeg yn troi cymaint a chil ei llygaid at y grisiau. Yn hytrach, eisteddodd fymryn yn nes at ei meistr nag a wnaethai hi erioed o'r blaen, a dangosodd duedd digamsyniol i ymgomio yn garuaidd. Nis gallai Enoc amgyffred y cyfnewidiad sydyn a dymunol a ddaethai dros ysbryd Marged. Meddyliodd fod ffawd yn dechreu gwenu arno, ac fod dyddiau dedwydd eto yn ei aros. Parod iawn a fuasai efe i wneud heb gwmni Marged, ond nid oedd hi yn gwneud osgo at fyn’d i glwydo. Yn union deg aeth Enoc i'w wely, er y dywedai Marged "nad oedd hi ddim yn rhyw hwyr, iawn, wedi'r cwbl, a bod y cloc dipyn o flaen y dre'."

PENNOD XIV.

PEDAIR YSTAFELL WELY.

RHIF I.—"Na, 'dydi hi ddim mor unupproachable ag oeddwn i'n meddwl. 'Dydio ddim ond rhyw ffordd sydd ganddi. Yn wir, y mae hi'n garedig—mi weles ddigon heno i brofi hyny. A mae hi'n glyfar hefyd yn sharp. Wel, on fum i'n ffwlcyn! Tybed ddaru'r Capten ddallt mai am Miss Susi yr oeddwn i'n meddwl tra'r oedd o'n siarad am waith mine? Mi fu just i mi henwi hi fwy nag unweth. Y fath lwc na ddaru mi ddim! Y fath joke fase'r peth! Y fath joke ydi'r peth! Bebydae rhai o'r chaps yma ddim ond yn cael gwynt ar y 'stori! Y fath wledd fydde hi! Ac eto 'dydw i ddim yn hollol dawel fy meddwl fedra i ddim peidio ofni fod yr heu dderyn wedi spotio mod i yn meddwl am Miss Trefor, tra 'roedd o yn sôn am waith mine. Ac mor debyg! Ond pwy, tu yma i'r haul, fase'n dallt at be 'roedd o'n dreifio—efo'i ' yn wir,' ac 'mewn geiriau ereill,' ac fel mater o ffaith? 'Mae pob brawddeg ganddo cyd a blwyddyn, ac yn cym'ryd gwynt dyn yn lan. Mae un peth yn y mlino i'n sobor—Peidiwch a chrïo, Mr. Huws bach,' medde hi. Yn mhell y bo nyna! Crïo! dyn yn f'oed i yn