Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crio! am 'i fod o'n sâl! Dyna ddaru hi feddwl, mi wn. Dario nyna! Ond y felldith brandi hwnw 'naeth i'r dagrau dd’od i fy llygaid i! Bydaswn i'n marw fedrwn i mo'u stopio nhw. Wel, ond oedd o càn boethed a lwmp o dân uff——, mi gymra fy llw! a hithe yn meddwl mai rhyw fabi yn crïo am 'i fam oeddwn i. Os lladdiff rhywbeth fi yn 'i golwg hi—y crïo neiff. Rhaid i mi gael egluro nyna iddi eto. Yn mhell y bo! mi fase'n well gen i na chan' punt dase'r crio yna heb hapno. Mi gmra fy llw y bod hi'n edrach arna' i fel rhw lwbi-labi! Ond aros di, Enoc, yr wyt ti ’rwan ar delerau efo'r teulu i fynd yno yn ol a blaen, a mae o fel breuddwyd gen'i. Ond fe fydd raid i mi gymeryd shares yn y fentar newydd, neu mi fyddaf yn yr un fan ag o'r blaen. Bydase'r fentar yn Jericho mi fase'n dda gen'i! I be yr ä i i daflu mhres i ffwrdd ar rywbeth na wn i ddim am dano? Swindle ydi'r rhan fwya' o'r gweithydd mines yma. Ac eto, mae'r Capten yn dad i Susi, ac yn ddyn gonest ac anrhydeddus—am-wn-i. Bydae o'n deyd mai yn у lleuad y mae o am fentro-fe fydd raid i mi grmeryd rhyw ychydig o shares. Ond mi dreiaf fod yn wyliadwrus yn dechre', nes cael gweld a fydd rhyw obaith i mi am Susi. Heb Susi— dim mentro; Sus —a mi fentraf yn Jupiter—byth o'r fan yma."

———————

RAIF II.—"'Rydw i'n bump-ar-hugain oed—a dydi'r gŵr boneddig ddim wedi dwad eto! Ddaw o ddim bellach, ne mi fase wedi dwad cyn hyn. Hwyrach fod nhw wedi dallt, o mlaen i, fod y nhad yn dlaw. O'r brenin anwyl! y fath syc! Sobor! P'am na fase fo'n deyd yn gynt, yn lle cadw mam a fine yn t'w'llwch? A gadael i ni gario 'mlaen ar hyd y blynyddoedd! Ond mae nhad bob amser mor glòs. Be ddeidiff pobol? a be nawn nine? Wel, fe gewch chi fyn’d i gadw 'rwan—wisga i monoch chi eto, gan mai tlawd yden ni. 'Humbug,' fel y bydde Wil, druan, yn deyd, ydi ymddangos heb ddim byd ond ymddangos. A 'dydw i ddim am neud hyny, waeth gen'i be ddeidiff'y mam. Os tlawd yden ni-tlawd y dyle ni ymddangos. Mi wisga ffroc gotyn—neiff pobol ddim ffeindio cymin o fai pan ddaw'n tlodi ni i'r golwg. Mae gen' i fys lluchio'r watch aur yma allan. drwy'r ffenest. Dim chwaneg o honoch chi, bracelets a gold brooch! 'Dydach chi