Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwasg; ond, hyd y gwelais i, gydag ychydig eithriadau, nid ydynt ond adlewyrchiadau ac efelychiadau o nofelau Saesonig, Mewn gwledydd ereill, megis Lloegr, Ffrainc, ac America, ceir y dynion mwyaf eu dysg a'u hathrylith yn mhlith y chwedleuwyr. Ond yn Nghymru gadawyd y gangen hon o lenyddiaeth, hyd yn hyn, i ysgrifenwyr israddol, fel fy hunan.

Pa fodd y rhoddwn gyfrif am hyn? Nid oes, ar y funyd, pan wyf yn ysgrifenu hyn o eiriau, ond un rheswm yn cynyg ei hun i fy meddwl. Mae Cymru oddiar y Diwygiad Methodistaidd— ac ni a ddylem ddiolch am hyny—yn wlad grefyddol, ac wedi ei thrwytho â'r elfen Biwritanaidd. Ein harwres ydyw Ann Griffiths ac nid Georgo Eliot. A gallaf yn hawdd ddychymygu am hen flaenor ymneillduol cywir, crefyddol, a duwiol, gyda Phererin Bunyan yn agored ar ei lin, â'r dagrau yn ei lygaid wrfh ei ddarllen, ac, ar yr un pryd yn edrych—a. hyny yn eithaf gonest—a'r nofelydd Cymreig fel dyn yn dyweyd celwydd i foddio ynfydion!

Mi gredaf fod y cyfnod hwnw ar fyn'd heibio. Mae mwy nag un ffordd i addysgu a difyru ein gilydd. Y chwedl fwyaf effeithiol, poblogaidd, ac anfarwol yn Nghymru, ydyw Y Mab Afradlon! A rheswm da paham! Amen, felly y byddo byth!

Mae hanes, ac arferion Cymru, yn wir, y bywyd Cymreig, hyd yn hyn, yn virgin soil, ac, yn y man, mi hyderaf, y gwelir blaenion ein cenedl yn corphori yn y gangen hon o lenyddiaeth ein neillduolion a'n defodau. Hyd hyny, gwasansethed Enoc Huws a'r cyffelyb.

DANIEL OWEN.

WYDDDGRUG,

Hydref 20fed, 1891.