Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim yn gweddu i bobol dlawd. Ac eto, rydach chi yn bur bropor! a dyma i chi gusan o ffarwel! Gorweddwch yn eich wadding nes y bydd raid eich gwerthu i gael bwyd! Y pethe bach tlws! un gusan eto, a dyna y cauad dros—eich— gwyneb! Oh!—yr ydw i— fel 'roedd y nhad yn deyd, wedi rhoi airs i mi fy hun. Ond dim chwaneg. Yr ydw i am fod yn eneth gall—heb ddim humbug, chwedl Wil. Ond faswn i ddim wedi cario mlaen bydase nhad wedi deyd yn gynt mai tlawd oedden ni. Sut y drycha i, tybed, mewn ffroc gotyn? Mae 'ma un i fod yn rhywle. Mae hi dipyn allan o'r ffasiwn erbyn hyn, ddyliwn, ond mi fedraf ei haltro. Lle mae hi? Weles i moni er's gwn i pryd, Mi treiaf hi i weled tebyg i be fydda'i'n edrach. Sealskin? Wel, rhaid dy droi dithau yn bres rhw ddiwrnod, ddyliwn. Lle mae'r hen ffroc yma? Ddylies i 'rioed fod gen' i gymin o ddillad! Mi fydda'r cwsmer gore a gafodd Mr. Lefiticus, y pawnbroker, er's blynyddoedd! Yn enw'r anwyl, ddaru mi rhoi hi i rwfun? Na, dyma hi! Wel, yr hen ffroc, should old acquaintance be forgot? Mae nhad yn leicio 'nghlywed i yn canu honyna—ond dim chwaneg o ganu i mi! Wyt ti'n 'y 'nghofio i, yr hen ffroc? 'Rwyt ti'n edrach yn go rinclyd, ond yforu mi dy rown di ar gefn cader o flaen tân, i dynu y rhincyls o honot. Be ddyliet, yr hen ffroc, o gael myn'd i'r capel unweth eto? 'Rwyt ti wedi dy amddifadu o foddion gras er's talwm, on'd wyt ti? Rheswm anwyl! p'run ai fi sy'n dewach ai ti sy' wedi rhedeg i fewn? Wel, erbyn i mi fyw ar frywes, ac i tithe gael dy ollwng allan, mi ddown at ein gilydd eto. Rheswm! mae 'ma le i mi fyw yn dy lewys di, a mae dy wasg di tua milldir rhy hir? Ond sut na fotymet ti? On'd oes golwg sobr arna' i! Ond na hidia, Susi, os ydi'r glass yna'n deyd y gwir, 'dwyt ti ddim yn perfect fright eto! Ond dyna, yr hen ffroc, lle'r wyt ti'n y nghuro i—pan ä i yn hen, fydd o ddim dyben fy rhoi i ar gefn cader o flaen tân i dynu'r rhincyls o 'ngwyneb i! Yr idea! Ie, y nhad yn sôn am i mi gymeryd miner cyffredin. Na na byth! na na'n dragywydd! bydawn dloted a Job. Be oedd y baboon gan Enoc yn feddwl wrth ddeyd mai angel oeddwn i? Oedd o'n meddwl rhywbeth? Ond dda gen i mo'r sant— mae o'n rhy dduwiol—yn rhy lonydd. Bydase fo'n haner dyn, mi fase'n trio cael cusau gen' i wrth y gate; ond bydase fo'n gneud hyny, mi faswn yn rhoi slap iddo yn 'i wyneb. On' rois i dô