Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iawn i'r hen Rechabite! Mi fu agos iddo dagu! Y baboon! A fine'n deyd—'peidiwch a chrio, Mr. Huws, bach.' Hwyrach mod i'n ddrwg; ond mi fyddaf yn leicio deyd rhwbeth i flino hen lanciau—rhwbeth—bydawn i'n medrud a dyne-waed o'u calon nhw. Ond mae Enoc yn well na 'miner cyffredin.' Poverty has no choice, bydae hi'n dwad i hyny. Mae gyno fo brês, lot, mae nhw'n deyd. Dyna un good point. Ond mae o mor hen ffash! A mae hi wedi dwad i hyn, Susi? Wel! wel! Fy idea i wastad oedd—os na phriodwn i er mwyn arian—oedd bod dros y mhen a nghlustie mewn cariad efo rhwfun, a thaflu fy hun drwy'r ffenest i'w freichiau dri o'r gloch y bore, a rhedeg i ffwrdd i briodi efo special licence! 'Does gen i ddim 'mynedd efo rhai sy'n priodi'n sad yn y capel —mae'n gas gen' i gwel'd nhw. Ac eto, hwyrach mai felly y bydd hi hefo fine. Efo 'miner cyffredin?' Byth bythoedd! bydae raid i mi foddi fy hun! Be' oedd y nhad isio, tybed, efo Enoc? 'I sycio fo i fewn, ddyliwn, 'run fath a Hugh Bryan, druan! a Mr. Denman. Ond mae'n rhaid gwueud rhywbeth rhag llwgu. 'Dydw i ddim yn cofio'r munyd yma a ddeudes i mhader? Pa ods—y pader gore i mi heno ydi good cry yn 'y ngwely! "


RHIF III.— "Ydach chi'n effro, Sarah? neu, mewn geiriau eraill, ddaru chi gysgu?"

"Yh?"

"Sarah, deffrowch, deffiowch. Mae gen" i eisiau cael siarad â chwi."

"Be ydi 'r gloch, Richard?"

"Wel, mae hi tua haner nos, neu, efallai, dipyn gwell. Fel mae'r amser yn myn'd! Ydach chi'n effro, Sarah? Mae gen' i— ydach chi'n effro? Ho. Wel. Mae gen' i ofn 'y mod i wedi'ch synu a'ch brifo heno, Sarah. Ond y mae gen' i gymaint wedi bod ar 'y meddwl yn ddiweddar—mae y pressure wedi bod mor fawr, mewn ffordd o siarad, nes oddwn i yn ofni i'r boiler fyrstio, ac yr oedd yn rhaid agor y falf yn rhywle, a pha le y gallwn i wueud hyny ond yn fy nheulu? Wrth bwy y gallwn ddeyd fy helynt ond wrthoch chwi a Susi? Ond erbyn i mi ail ystyried pethau—peidiwch a chr'io, Sarah, peidiwch, 'rwyf yn crefu arnoch—erbyn i mi ail ystyried pethau, fel y dywedais,