Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Lot? pwy ydyn' nhw, ys gwn i? Ydyn' nhw yn rhwfun â rhyw gownt o honyn'u hunen?"

"Ydyn'."

"Ydyn', ddyliwn, rhwfun 'run fath a chi'ch hun. Ydyn' nhw yn rhwfun yn hidio rhwbeth am'u gwragedd a'u teulu?"

"Ddaru mi ddim gofyn iddyn' nhw."

"Naddo, ddyliwn, mi wn hyny heb i chi ddeyd i mi. Ydach chi'n meddwl 'y mod i'n myn'd i aros dan berfeddion arnach chi ddwad i'r tŷ?"

"Ddaru mi 'rioed ofyn i chi neud hyny."

"Naddo, a bydae chi'n gofyn, dydw i ddim am neud."

"Purion."

"Symol purion. Oes gynoch chi 'run tŷ'ch hun i fod ynddo'r nos?"

"Eighty—two, High Street."

" Diar mi! mor dda 'rydach chi'n cofio'r number! Fyddwch chi ddim yn misio'r tŷ weithie?"

"Fu mi 'roed mor lwcus."

"'Lwcus?' ydach chi'n ddeyd yn 'y ngwymed i, Denman, fod chi wedi blino arna i?

"Blino ar un mor ffeind a chi?"

"Ië, deudwch yn blaen, Denman, achos mi wn mai dyna ydi'ch meddwl chi—deudwch yn blaen nad ydach chi'n hidio dim am dana i. 'Dydw i dda i ddim ond i slafio, fel 'rydw i wiriona. Welsoch chi fi rw dro yn myn'd i dai'r cym'dogion i golma?"

"Erioed; fuoch chi 'roed yn nhŷ Mrs. Price dan un-ar-ddeg o'r gloch y nos! Diar mi, naddo!"

"Am unweth—unweth yn y pedwar amser—yr eis i dŷ Mrs. Price i gael paned o dê, ydach chi'n edliw hyny i mi, Denman? Ydach chi am i mi fod a'm mhen wrth y post ar hyd y blynydde?"

"Dim o gwbl; mi faswn yn leicio i chi fyn'd i edrach am Mrs. Jones, y Siop, haner dwsin o weithiau yn y mis, ond fyddwch chi byth yn myn'd."

"Ydach chi'n edliw hyny i mi hefyd, Denman? Mi gymra fy llw na fum i ddim ond dwywaith yn nhŷ Mrs. Jones er's pythefnos. Os ai i i rywle, mi ga hyny ar draws fy nanedd yn syth!"

"Draws y'ch danedd?"