Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Llai o'ch speit chi, Denman, 'roedd gen i gystal danedd a chithe hyd yn ddiweddar. A be ddisgwylioch chi i fam i bump o blant? Ydach chi'n disgwyl i mi fod yn ferch ifanc o hyd? Ond 'does gynoch chi ddim parch i mi'—mae hyny'n ddigon plaen. A lle 'rydach chi 'wedi bod heno, Denman? Lle—y—buoch—chi?"

"Efo niod, wrth gwrs, ydech chi ddim yn 'y ngwel'd i wedi meddwi?"

"Na, mi wn na fuoch chi ddim efo'ch díod, ond faso waeth i chi fod efo'ch diod na bod efo'r hen Gapten y felldith ene, achos mi wn o'r gore mai yno y buoch chi. Ai nid yno buoch chwi, Denman?"

"I be 'rydach chi'n gofyn, a chithe'n gwbod?"

"Mi gymra fy llw mai yno buoch chi. Deudwch y gwir, Denman, ai nid yno y buoch chi?"

"Twbi shwar, ddaru chi 'roed gymeryd llw drwg."

"On wyddwn i gystal a daswn i efo chi mai efo'r hen felldith Gwaith mein ene 'roeddach chi. 'Rydw i wedi deyd a deyd, nos mae nhafod i'n dwll——"

"Be? eich tafod yn dwll?"

"Beiwch chi fel y mynoch chi, yr ydw i wedi deyd digon, os digon ydi llawer, am i chi roi pen ar yr hen fentro fellitith ene. Os ydi pobl erill sydd yn sane yn medrud rifflo'u prês ar fentro 'does dim isio i chi—dyn ar 'i ore—hel pob ceiniog a'u talu nhw i Bwllygwynt na welwch chi byth wymed y delyn o honyn' nhw. A 'rydach chi wedi'n gneud ni cyn dloted nad oes gynon geiniog i ymgrogi. Be ydach chi'n feddwl, Denman? Pryd ydach chi'n meddwl stopio hel pob ceiniog i'r hen Gapten y felldith ene? A dyma chi 'rwan yn dwad i'ch gwely heb fyn'd ar y'ch glinie! Crefyddwr braf yn wir!'

"Hwdiwch, ddynes, os gwnewch chwi addaw cadw y tafod yna yn llonydd ara ddau funyd mi af yn ol i ddeyd 'y mhader?"

"O, 'dydw i, ddyliwn, i gael deyd dim! Rhaid i mi fod yn ddistaw a dyodde'r cwbwl, fel bydawn i gareg. Wel, mae hi wedi dwad i rwbeth! ydi; 'dydw i neb, nag ydw, neb, er 'y mod i'n fam i bump o blant. Ië'r plant, druen! 'Does neb yn hidio dim am danyn' nhw. Mae'n dda fod gynyn nhw fara, ne be ddeuthe o honyn' nhw? Mae rhw bobol yn gallu bod yn ddigon diofal, fel bydae nhw'n perthyn dim byd iddyn'