Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nhw! Wel, fe ddaw rhwbeth ar ol hyn, daw, daw, ond mi wn hyn, na fydda i ddim yma yn hir. Wrth hir guro ar y gareg mae hi'n siwr o dori, bydae rhwfun yn hidio am hyny! Ond hwyrach y gwela nhw ngholli i, er saled ydw i! Mae Rhwfun yn gwbod y cwbl, a mi geiff pawb gyfiawnder yn y diwedd. Caiff, caiff! Mae rhw rai yn gallu cysgu gynted y gorweddau' nhw fel bydae ddim byd yn 'u blino nhw. Mi fase'n dda gen' i fedrud gneud hyny. Ond y Brenin Mawr â ŵyr—ie, y Fo sy'n gwbod—uff, uff."'

PENNOD XV

.

EGLURHAD

.

NID oedd Capten Trefor yn perthyn i'r dosbarth hwnw o ddynion na wyddant yn y bore beth a ddigwyddodd y noson gynt. Y mae dynion felly; y rhai, dan ddylanwad y foment, ne'i rywbeth cryfach na'r foment, a faldorddant ac a raffant yr hyn a fu yn croni am amser yn eu meddyliau, ac erbyn y bore na wyddant tu nesa' i lidiart y mynydd pa beth a ddywedasant na pha beth a ddigwyddodd. Yr unig beth a feddant i sicrwydd ydyw rhyw ymwybyddiaeth gymysglyd, anmhenodol, eu bod wedi dweyd rhywbeth na ddylasent, a bod rhywbeth wedi digwydd na ddylasai ddigwydd. A phan adroddir wrthynt hanes y noson gynt ni fydd ganddynt ddim i'w wneud ond ysgwyd eu penau, cyfaddef eu hanwybodaeth, eu galar, a chydnabod eu bod fel ar fel, ac felly, mewn ystyr, nad oeddynt yn gyfrifol. Na, ni pherthynai Capten Trefor i'r dosbarth yna. Er ei fod, ar adegau, yn caniatau i'w gêg a'i fola ymgyfathrachu gryn lawer â'r gwirodydd, yr oedd ei feddwl, mewn dull o ddweyd, yn llwyrymwrthodwr ac yn cadw at a respectable distance oddiwrth Syr John. Nid peth anadnabyddus ydyw fod llwyrymwrthodwr ac aelod eglwysig yn cadw tafarndy—mae yn talu y rhent, yn gwerthu y nwydd, ond nid yw ef ei hun yn cyffwrdd âg ef. Yr oedd rhyw berthynas gyffelyb rhwng corph a meddwl Capten Trefor. Yr oedd ei gorph,