Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, yn gwueud defnydd helaeth o Scotch Whiskey, ond yr oedd ei feddwl yn llwyrymwrthodwr, os nad yn areithio ar ddirwest. Gorchwyl anhawdd a fuasai d'od o hyd i'r ochr ddall iddo ef. Ac hyd yn nod yn ei funydau mwyaf llawen, yn nghwmni cymdeithion a dueddent weithiau i yfed mwy nag oedd lesol iddynt, yr oedd meddwl y Capten yn cadw sentry, megis, ac yn abl, dranoeth ar ol y gyfeddach, i roddi cyfrif manwl am bobpeth a ddigwyddodd.

Y bore, ar ol y noson a grybwyllwyd, deffrodd y Capten yn lled blygeiniol, a'i ben, nid yn unig yn rhydd oddiwrth gur, ond yn berffaith glir. Yn wir, buasai y Capten yn galw ei ben i gyfrif, ac yn ystyried ei hun yn highly insulted, pe buasai yn dyoddef oddiwrth eiliw o gur fel canlyniad i yfed dim ond rhyw ddwsin o lasieidiau o chwisgi. Nid oedd cur yn y pen, yn ol syniad y Capten, ond rhywbeth a flinai y rhai a etifeddent organic disease, ac y dylai y cyfryw ymgadw yn hollol oddiwrth y gwirodydd, oblegid clywsai fod y clefyd hwnw—sef cur yn y pen—yn beth ddigon annymunol. Ac yn hyn yr annghytunai y Capten a'r meddygon, y rhai a ddywedent fod alcohol yn hollol ddiangenrheidiol i bobl gryfion, ond y gallai wneud peth daioni i'r gweiniaid. Credai y Capten yn hollol wahanol. I bobl gryflon yn unig, meddai ef, y bwriadwyd diod gadarn, ond am y rhai yr oedd cyfranogi o honi yn effeithio ar eu coesau a'u peuau—mai eu dyledswydd oedd ymgadw yn mhell oddiwrthi. Fel darpariaeth ar gyfer y dosbarth hwn, ystyriai y Capten y Gymdeithas Ddirwestol yn sefydliad rhagorol iawn, ac edmygai tuhwnt sêl ei hyrwyddwyr. Yn sicr ni buasai ef yn petruso, pe gofynasid iddo, gymeryd y gadair mewn cyfarfod dirwestol, a chredai na buasai ef ar ei ben ei hun mewn sefyllfa felly, a meddyliai y gallai enwi mwy nag un o ddynion cyfrifol oeddynt wedi bod mewn sefyllfa felly ac heb ystyried eu hunain yn euog o unrhyw anughysondeb.

Yr oedd y Capten ar ei draed yn blygeiniol, fel y dywedwyd, ac adolygai yn ei feddwl ddatguddiedigaethau y noson flaenorol gyda llawer o foddhad, oblegid yr oedd efe, er's llawer o amser, yn canfod ei bod yn tywyllu ar ei amgylchiadau, ac wedi bod ar fedr fwy nag unwaith i ragbarotoi meddwl ei wraig a'i ferch gogyfer a hyny. Yr oedd y gorchwyl hwnw bellach drosodd, ac nid oedd efe mwyach yn gwisgo mwgwd yn ei deulu. Yr oedd wedi penderfynu, pa bryd bynag y gwnai efe y datguddiad