Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w deulu, gosod allan ei sefyllfa yn y wedd dduaf oedd yn bosibl. Tybiai mai hon oedd y ffordd ddoethaf, yn hytrach na'i dadlenu yn raddol. Wrth bortreadu ei sefyllfa fydol i'w wraig a'i ferch yn y wedd fwyaf anobeithiol, credai y Capten y gallai ail ddechreu ei ddedwyddwch teuluol, ac mai gwella a wnai pethau yn hytrach na gwaethygu. Yr oedd efe hefyd yn argyhoeddedig er's tro fod y rhyddid a'r gefnogaeth ddistaw a roisai efe i'w wraig a'i ferch i "gario 'mlaen" wedi creu ynddynt syniadau uchel a thwyllodrus—syniadau a ymylent ar fod yn aristocrataidd. Canfyddai yn eglur mai efe ei hun oedd wedi eu harwain i goleddu y syniadau hyn, a chredai, erbyn hyn, mai ei ddyledswydd oedd eu didwyllo, a hyny, nid yn raddol, ond ar unwaith—nid trwy dori brigau y pren, ond trwy gymhwyso y fwyell yn syth at ei fôn. Gwyddai o'r goreu yr achosai hyn gryn gynhwrf a thrwst yn Nhy'nyrardd—y byddai yno dipyn o synedigaeth, o grio ac foni, ond wed'yn, byddai y cwbl drosodd mewn un noswaith. "Mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, yr oedd y Capten wedi torchi ei lewys at y gorchwyl amryw weithiau: ond wrth feddwl am ei effeithiau pallai ei wroldeb. Ond yn awr, yr oedd yr ystorm drosodd, a'i wraig a'i ferch yn gwybod am ei sefyllfa cystal ag yntau. Serch hyny, meddyliai y Capten ei fod, wrth roi y datguddiad, wedi gwneud un camgymeriad; a hwnw oedd y darluniad cywir a roddasai efe o'i fywyd twyllodrus. Nid oedd wedi rhagfwriadu gwneud y fath beth, ac nid oedd yr amcan ganddo mewn golwg yn gwneud hyny yn angenrheidiol. Gwyddai y Capten yn burion yr edrychai Mrs. Trefor arno fel cynllun o ddyn da, anrhydeddus, a phe digwyddasai iddo farw yn sydyn, heb adael tystiolaeth ar ei ol, na buasai hi yn petruso, nid yn unig ei roi yn y Nefoedd, ond yr edrychasai ar y lle gogoneddus a hyfryd hwnw wedi ei freintio âg addurn ychwanegol. Pa ŵr, yn meddu ymwybyddiaeth gyffelyb, nad ymfalchiai yn ei wraig? Ond, erbyn hyn, teimlai y Capten ei fod wedi andwyo y gyfaredd hono, ac nid oedd y fath gamgymeriad, cyfaddefai wrtho ei hun, yn deilwng o Capten Trefor. Ni addefai am eiliad fod a wnelai y chwisgi ddim â'r camgymeriad, er ei fod wedi ei gael o le newydd. "Na," ebe'r Capten wrtho ei hun, "mae'n rhaid mai cael blâs a ddaru mi ar wneud clean breast. Y oedd y peth mor anmhenthyn i mi! A pheth garw ydyw dechreu splitio. Yr un fath a gwraig