Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi dechrau glanhau y tŷ, a chael blas—rhaid iddi gael gorphen. Ond mi—wnes mistake"

Pan ddaeth y Capten, y bore hwnw, at y bwrdd i gael brecwest, yr oedd ynddo ymwybyddiaeth boenus ei fod yn greadur newydd yn ngolwg Mrs. Trefor; a phe na buasai yn ymwybodol o hyny, yr oedd y ffaith yn rhy amlwg yn ei gwyneb, yr hwn a ordoid gan dristwch anoboithiol, yn lle bod, fel yr arferai, yn tywynu gan serch ac edmygedd. Nid cysurus oedd hyn gan y Capten; ac o herwydd hyny gwisgodd y wên fwyaf dymunol a faasai ar ei wyneb er's blynyddoedd, fel rhagbarotoad priodol i iawn—ddealltwriaeth rhyngddo ef â Mrs. Trefor. Tra yr oedd Mrs. Trefor yn tywallt y coffi i'r cwpanau mewn distawrwydd prudd, a'i hwyneb fel cwmwl ar fin gwlawio, gorphwysai y Capten ei ddau benelin ar y bwrdd, a'i ddwylaw yn mhlith, yn lefel efo'i drwyn, gan wylio am gyfleusdra i ofyn bendith—yr hyn na wnaethai efe o'r blaen er's tro byd. Ac, ebe fe, gan anerch y forwyn—

"Chwi ellwch chwi, Kitty, fyn'd yrwan, mi wnawn y tro yn burion." Yna, wedi ychydig ddistawrwydd, gan droi gwyneb hawddgar at Mrs. Trefor, ychwanegodd—"Sarah, mi wn ar eich gwedd eich bod wedi cymeryd yr hyn a ddywedais neithiwr yn ormodol at eich calon. Ni a ddylem gofio fod y teuluoedd goreu a'r Cristionogion mwyaf gloew, weithiau, yn cyfarfod â phethau chwerwon yn eu hamgylchiadau. Yn wir, y mae genym enghreifltiau o hyny yn yr Ysgrythyr Lân—yn enwedig yn yr Hen Destament—a hyny mewn cyfnod pryd y golygid fod Rhagluniaeth yn ffafrio duwiolion—megys Jacob, Job, a Dafydd. Ac yr wyf wedi bod yn meddwl, Sarah, y gall fod rhywbeth ynora ni yn galw am yr oruchwyliaeth hon, ac y bydd, yn y diwedd, er ein lles ysbrydol. 'Dydw i fy hun, mi wn, ddim wedi bod haner digon diolchgar am y daioni a'r llwyddiant y gwelodd Rhagluniaeth yn dda ei gyfranu i mi am gynifer o flynyddoedd, ac yr wyf yn tueddu i feddwl mai cerydd oddiwrth yr Arglwydd ydyw hyn i'm dwyn i roi mwy o bris ar bethau ysbrydol nac ar bethau daearol. Beth meddwch chwi, Sarah?"

Torodd Mrs. Trefor allan i grio, ac yn y cyfamser helpiodd y Capten ei hun gydag ychydig ychwaneg o bacon. Wedi gwneud hyn, ebe fe—

"Sarah, Sarah, peidiwch, peidiwch ag ymollwng yn eich