Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbryd. Mi wn fod y peth yn gryn shock i chwi, ac, erbyn hyn, mae'n ddrwg genyf i mi eich acwaintio mor sydyn am ein hamgylchiadau, yn lle gadael i chwi eu gwybod yn raddol, fel yr oeddwn i fy hun yn dyfod i'w gwybod; ond buasech felly wedi eich gwneud yn druenus er's llawer o amser, a'r trueni hwnw heb fod yn gwella dim ar yr amgylchiadau, ond yn hytrach yn eu gwaethygu. 'Dydw i yn beio dim arnoch, Sarah, am grïo—mi fyddwch yn well ac ysgafnach. Nid ydyw natur, ysywaeth, wedi fy nghynysgaeddu i â'r outlook hwnw i fy nheimladau—yr wyf yn gorfod cadw fy ngofid i gyd oddimewn, yr hwn sydd yn fy mwyta yn raddol, ond yn sicr. Pa fodd bynag, Sarah, rhraid i chwi wneud ymdrech i ymgynal, a rhoi eich hyder ar Dduw, a minau gyda chwi."

"'Rydach chi wedi 'nhwyllo i Richard," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid.

" Sut felly, Sarah? Yr wyf wedi eich arbed, mi wnaf addef, ond y mae twyllo yn air cryf," ebe'r Capten.

"Fel hyn," ebe Mrs. Trefor, gan wneud ymdrech i feddianu ei hun—"yr ydach chi wedi peri i Susi a fine i gredu eich bod yn dda arnoch—'rydach chi wedi gadel i ni gael pobpeth oeddan ni'n ddymuno—'rydach chi wedi'n dysgu ni—nid mewn geiriau, mi wn, ond yn y'ch ymddygiad—i edrach i lawr gyda thosturi ar dlodion, ac hyd yn nod ar bobol well na ni'n hunen, a gneud i ni feddwl yn bod ni yn rhwbeth mwy na chyffredin —'rydach chi wedi'n encouragio ni i gymdeithasu â phobol uchel 'u sefyllfa, ac i gadw oddiwrth bobol erill, a dyma chi, yn y diwedd, heb i ni feddwl dim byd, yn deyd y'n bod ni'n dlawd, a bod y cwbwl drosodd. 'Rydach chi wedi bod yn greulon efo ni, Richard."

"Yr oeddwn yn meddwl, Sarah," ebe'r Capten, "fy mod, neithiwr, wedi rhoddi i chwi reswm digonol am fy ymddygiad —a hwnw oedd tynerwch fy nghalon, a'r awydd oedd ynof i beidio anmharu dim ar eich dedwyddwch. Ac eto dyma chwi yn galw hyny yn greulondeb! Mae hyn yn wendid ynof, mi wn, sef gorawydd am wneud eraill yn hapus, serch i hyny gostio yn ddrud i mi fy hun. Mae ynof erioed. Ond y mae hyn o gysur genyf, sef nad ydwyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Oni chlywais i chwi eich hun, Sarah, yn dweyd, a hyny yn eithaf priodol, mor ddoeth a da ydyw y Brenin Mawr yn ei waith yn cadw oddiwrthym ragwybodaeth am ddyddiau tywyll,