Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac amgylchiadau annghysurus? Mae 'n rhyfedd, Sarah, fod yr hyn a ystyriwch yn ddoethineb yn y Llywodraethwr Mawr, yn greuloudeb yn ei greadur gwael. Mae y pethau sydd o'n blaen, megis dydd ein marwolaeth, yn anhysbys i ni. Ai trugaredd ai creulondeb fu yn trefnu hyny?"

"Mi wyddoch o'r gore, Richard, nad ydi'r Brenin Mawr yn twyllo neb, ac os ydi O'n ein cadw yn t'w'llwch am bethe sydd i ddwad, mae O wedi ein rhybuddio i fod yn barod ar 'u cyfer. 'Ddaru chi ddim gneud hyny."

"Naddo, Sarah, naddo; am y rheswm da nad ydwyf fi, mwy na rhyw greadur meidrol arall, yn gwybod dim am y dyfodol. Pe buaswn yn sicr, dyweder flwyddyn yn ol, mai fel hyn y diweddai pethau, a ydych yn meddwl, Sarah, na fuaswn yn eich rhybuddio? Mae yn wir fy mod yn ofni iddi ddyfod i hyn er's talwm; ond yn ystod fy nghysylltiad â Phwllygwynt, pa sawl gwaith y bum yn ofni i bethau dd'od i'r pen, ac, wedi'r cwbl, fy holl ofnau yn troi allan yn ddisail a diachos? Pe buaswn, ar hyd y blynyddau, wedi hysbysu fy ofnau i chwi, Sarah, buasech—gan mor wahanol i fy ofnau yr oedd pethau yn troi allan—wedi myn'd i gredu mai nervous character oeddwn, ac ni fuasech yn credu fod y peth sydd, erbyn hyn, yn ffaith, sef ein bod yn dlawd, a bod Pwllygwynt ar ddarfod am dano."

"Wyddoch chi, Richard," ebe Mrs. Trefor, "nid y meddwl y'n bod ni'n dlawd sy'n mlino fwya', er y bydd hyny yn change mawr i ni ar ol yr holl gario 'mlaen; na, mae'n gwell ni wedi dwad i dlodi cyn hyn. Trefu Rhagluniaeth ydi peth felly. Yr hyn sy'n tori 'nghalon i ydi'r peth ddaru chi ddeyd am danoch y'ch hun. Mi wyddwn y'ch bod chi'n cymyd diod—ond rhaid i mi ddeyd na weles i 'rioed arwydd diod arnoch chi—mi wyddwn y'ch bod chi'n dwad i gysyiltiad â phob math o ddynion; ond 'roeddwn i bob amser yn credu y'ch bod chi yn ddyn gonest, geirwir, a duwiol, a dene oedd cysur pena' mywyd i. Ond ar ol y pethe ddaru chi ddeyd neithiwr, fedra' i ddim meddwl felly am danoch 'rwan."

"Rhaid i mi gydnabod, Sarah," ebe'r Capten, "mai chwi, o bawb, ag eithrio'r Hollwybodol, sydd yn fy adnabod i oreu, a phe na bawn yn adnabod fy hun, mi wn at bwy yr awn i gael syniad cywir pa fath un ydwyf. Yr ydych, am haner oes, wedi cael y cyfleusdra goreu i fy adnabod, allan ac allan, fel y