Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae'n dda gan 'y nghalon i 'ch clywed chi'n siarad fel ene, Richard," ebe Mrs. Trefor,—wedi iachau gryn lawer. "'Doeddwn i prin yn credu mai chi oeddach chi neithiwr. Mi ddaru chi nychrynu i yn arw, Richard, a mi feddylies yn siwr mai dyn digrefydd oeddech chi, a bod chi wedi 'nhwyllo i ar hyd y blynydde."

PENNOD XVI.


GWR A GWRAIG.


TEIMLAI y Capten yn llawen iawn ei fod unwaith eto wedi enill ymddiried trylwyr ei wraig, ac ebe efe—

"Nid oeddwn heb ofni, Sarah, eich bod wedi ffurfio syniad aughywir am danaf—a hyny mewn tipyn o frys. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Ond er fod dyn yn aml, fel y mae genym amryw o engreifffiau, yn cael crefydd mewn noswaith, nid oes genym, hyd yr wyf yn cofio, son am neb yn ei cholli mewn noswaith. Mae pressure amgylchiadau, weithiau, yn peri i ddyn siarad am dano ei hun mewn gwedd na fynai ei harddel yn ei funydau mwyaf tawel. Yn wir, y mae genym engreifltiau o ddynion goreu'r byd—dan bwys gofalon mawr, gofidiau, a themtasiynau y byd drwg presenol—yn siarad am danynt eu hunain fel dyhirod, er na fynai neb o'n cydnabod eu hystyried felly. Mi wn fy hun, Sarah, am fwy nag un dyn da, wrth roi ffordd yn ormodol i beth fel hyn, a gyflawnodd hunanladdiad mewn hunanffieiddiad. Perygl pob dyn meddylgar, fel fy hunan, ac ymwybodol o'i ddiffygion ydyw, fel y dywed y Sais, bod yn morbid, Ond dyna oeddwn yn myn'd i'w ddweyd, Sarah, mi wn fy mod neithiwr wedi siarad am danaf fy hun dipyn yn eithafol, er nad yn anysgrythyrol, oblegid y mae y galon yn fwy ei thywyll na dim—yn ddrwg diobaith. Ond yr wyf yn hyderu, Sarah, ein bod, erbyn hyn, yn deall ein gilydd; ac er eich bod chwi, am foment, megis, wedi fy ngholli yn y fintai, yr wyf yn hyderu, meddaf, eich bod yn argyhoeddedig, erbyn hyn, mai yr un ffordd yr ydym