Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i mi—mi fedraf eu darllen. Os nad ydwf yn camgymeryd—ac yr wyf yn meddwl y cewch fy mod yn iawn, amser a ddengys,—yr wyf yn credu fod gan Mr. Huws feddwl am Susi. Hwyrach nad ydyw Mr. Huws ddim y peth y darfu i ni un tro feddwl i Susi ei gael—hwyrach nad ydyw y peth y buasai hi ei hun—heb ei chyfarwyddo—yn gosod ei bryd arno. Ond y mae'r amgylchiadau wedi newid, ac hyd yn oed pe na buasent wedi newid, yr wyf, o'm rhan fy hun, yn methu gweld pa'm na wneuthai Mr. Huws burion gŵr i'r eneth. Beth ydych yn ddweyd am hyn, Sarah? Yr ydych yn dallt fy meddwl?"

"Ydw, Richard," ebe Mrs. Trefor, " yr ydw i'n dallt y'ch meddwl chi'n burion; ond ddymunwu i ddim fforsio'i eneth i gym'yd neb. A pheth arall, hwyrach, pan ddoiff Mr. Huws i ddallt y'n bod ni'n dlawd na feddyliff o ddim chwaneg am Susi.

"Yr ydych yn dallt calon merch, Sarah," ebe'r Capten—"'does neb, hyd y gwn i, yn ei dallt yn well, ond 'dydach chi ddim yn dallt calon dyn, Yr ydych yn cofio yn burion, Sarah, pan ymserchais i ynoch chwi, i minau fod dan yr argraph eich bod yn meddu tipyn o arian—yn wir, eich bod yn gyfoethog; ond—maddeuwch y crybwylliad—'ddaru mi ddim sôn am y peth o'r blaen, hyd yr wyf yn cofio, ond unwaith, a hyny yn gynil—chwi wyddoch, meddaf, faint o eiddo a gefais i hefo chwi, ond a ddarfu i hyny leihau un 'iota, fel y dywedir, ar fy serch i atoch? Dim, Sarah, dim. Yn wir, erbyn hyn, mae yn dda genyf gofio na chefais i ddim gyda chwi, ond yr hyn oedd ynoch chwi eich hun—ac yr oedd hyny yn ddigon. Cofiwch, Sarah, fy mod yn crybwyll hyn gyda'r unig amcan o ddangos i chwi pan fydd gŵr ieuanc wedi gosod ei fryd ar ferch ieuanc, na wnaiff dyfod i wybod nad ydyw gwrthrych ei serch yn meddu ar gyfoeth, beri iddo newid ei fwriadau tuag ati, na lleihau dim ar ei serch, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. O leiaf, dyna ydyw fy mhrofiad i, ac yr wyf finau wedi fy ngwneud o'r un defnydd a'r hil ddynol yn gyffredin. Heblaw hyny, yr wyf yn methu gwel'd paham y rhaid i Mr. Huws, na neb arall, gael gwybod ein bod yn dlawd, ar hyn o bryd, fodd bynag."

"Mae gen' i ofn, Richard," ebe Mrs. Trefor, "na fydd gan Susi feddwl yn y byd o Mr. Huws. 'Does gen' i fy hun ddim yn y byd i'w ddweyd am y dyn—mae o'n riol, am wn i—ond mi fydd yn od gen' i os leiciff Susi o."