Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyledswydd rhieni, Sarah, fel y gwyddoch," ebe'r Capten, "ydyw cyfarwyddo eu plant, a dyledswydd plant ydyw ufuddhau, heb ofyn cwestiynau. A sôn am 'leicio'—a leiciff hi, tybed, fyn'd i wasanaeth? A leiciff hi olchi'r lloriau efe pob math o Mary Ann a Mary Jane, ac ymgymysgu hefo pob sort o strwt? Mae'n rhaid i chwi, Sarah, egluro iddi, mewn iaith nad all ei chamgymeryd, nad oes dim ond menial work o'i blaen, os na bydd hi yn gall a synwyrol yn yr amgylchiad hwn. Pa fodd bynag, mae yn rhaid i mi ofyn hyn genych chwi a chan Susi, sef rhoddi pob parch a chroeso a sylw dyladwy i Mr. Huws pan ddaw o yma. Mae ein bywoliaeth, fel teulu, yn dibynu ar ei ie neu ei nage ef. Ydach chwi'n dallt fy meddwl, Sarah? Ond dyma Susi yn d'od i lawr y grisiau, a dyma finau yn myn'd i'r Gwaith. Cofiwch, Sarah, fy mod yn disgwyl y byddwch wedi gwneud pethau'n straight cyn i mi dd'od yn ol."

"Mi 'na ngore, Richard," ebe Mrs. Trefor.

"Very good," ebe'r Capten, ac ymaith ag ef cyn i Susi gyrhaedd gwaelod y grisiau.

PENNOD XVII.

Y FAM AR FERCH.

Wedi treulio blynyddoedd mewn llwyddiant a llawnder—wedi haner oes o fwynhau cysuron bywyd yn ddibrin ac yn ddibryder, peth digon aunymunol ydyw fod yr amgylchiadau yn dechreu cyfyngu—y cysuron yn graddol leihau, ac hyd yn nod dlodi—er nad yn ymyl—eto yn ein haros acw yn y fan draw. Ond mwy gofidus, gallwn feddwl, ydyw tybied ein bod mewn clydwch a digonedd, fod i ni etifeddiaeth dêg, ac y byddwn farw yn ein nyth, ac ar unwaith ddyfod i ddeall ein bod yn dlawd a llwm. Y mae fel crwydryn a fai yn breuddwydio ei fod mewn gwledd ddanteithiol, ac yn mwynhau rhialtwch ac ysbleddach, ac yn deffro yn sydyn i gael ei hun ar ei gythlwng ac yn annyddos.