Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ddim yn y nallt i? ar ol y peth ddeudodd y nhad neithiwr? 'Rydw i, erbyn hyn, yn dallt fy hun yn burion—mai humbug ydw i wedi bod ar hyd y blynyddoedd, yn rhoi airs i mi fy hun, fel y deudodd y nhad. Ond dydw i ddim am fod yn humbug ddim chwaneg. Os geneth dlawd ydw i, fel geneth dlawd 'rydw i am wisgo."

"Paid a moidro, ngeneth bach i. 'Doedd dy dad ddim yn meddwl haner y pethe oedd o'n ddeud neitniwr. 'Roedd o wedi cynhyrfu, wyddost, achos ma gyno fo gimin o bethe ar i feddwl."

"Bydase fo wedi deud tipyn o'i feddwl i ni yn gynt, mi fase ganddo lai ar ei feddwl. Dydw i ddim yn ystyried fod nhad wedi bod yn onest efo ni—os bu o'n onest efo rhwfun."

"Susi! rhaid i mi ofyn i ti beidio siarad fel ene am dy dad—wyddost di ddim byd am fusnes nac am y profedigaethe y mae dy dad wedi bod ynddynt. Yn wir, erbyn i mi gysidro pethe, mae'n syn gen i sut mae wedi gallu cadw 'i grefydd. Mae'n rhaid fod o wedi cael help oddi uchod. Ac mor geind yno fo! yn cadw'r helynt i gyd iddo fo'i hun rhag y'n gwneud ni yn annghyfforddus."

"Sut bynag, mi wyddom yrwan, mam, am ein gwir sefyllfa—mi wyddom ein bod wedi twyllo ein hunain a thwyllo ein cym'dogion—mi wyddom ein bod yn dlawd, ac y byddwn yn dlotach yn y man, a dydio ddim ond humbug i ni ymndangos fel arall. Mae'n well gen i gael deud fy hun wrth bobol ein bod yn dlawd nag iddyn nhw ddeud wrtho i."

"Dim ffasiwn beth! paid a gwirioni, eneth! On' ddeudes i nad oedd dy dad ddim yn meddwl haner y pethe oedd o'n ddeud neithiwr. Wedi cynhyrfu 'rodd o, a 'does dim isio i ti sôn gair am y peth wrth neb. Mi wyddost mor glyfar ydi dy dad, yn wir, rhy glyfar ydio, a dene sut mae pobol ddim yn i ddallt o. A bydae Pwllygwynt yn darfod, mi fedr dy dad ddechre gwaith arall ar unwaith. Yn wir, y mae o'n mynd i ddechre un rai o'r dyddie nesa 'ma, fel y cei di wel'd, a mi fydd cystal arnom ni ag y bu hi 'roed."'

"Wyddoch chi, mam? 'rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fedra i ddim deud mor rhyfedd 'rydw i'n teimlo. 'Rydw fel bydawn i wedi bod yn breuddwydio ar hyd f' oes, ac newydd ddeffro i realeisio sut y mae pethe. Wrth feddwl sut yr ydw i wedi byw, sut yr ydw i wedi ymddwyn at bobol gan' mil gwell na