Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyaf llorf? Tros y gefnen acw, y mae Coed Eulo, neu Iolo, lle y cafodd Dafydd a Cynan, meibion Owain Gwynedd, y fath oruchafiaeth ar luoedd ymosodol Harri II. Moel Gaer drachefn, hen amddiffynfa Gymreig gadarn, a wrthsafodd lawer ymosodiad. Maesgarmon wedi hyny; pwy na chlybu am byburwch y saint-filwyr Celtaidd Garmon a Lupus yn dyfetha y Ffichtiaid, neu y Gwyddel Ffichti fel y gelwid hwy gynt, trwy orhoian y fanllef "Aleliwia." Castell Gwyddgrug, Monte Altus y Rhufeiniaid, ar gopa Bryn y Beili, a thafod hanesiaeth yn ei ben crwn yn traethu am lawer tro gwaedlyd a fu o'i ddeutu. A Chastell Caergwrle, ar yr ochr arall, trigfa unwaith i Gruffydd Maelor a Dafydd ab Gruffydd, brawd Llywelyn ein llyw ola." Os oes a wnel golygfeydd hanesyddol rhyfelgar â ffurfiad cymeriad dyn, yna pa ryfedd i fachgen craff sylwgar fel ein harwr droi allan y fath ryfelwr?

PENOD III.

DEALLODD L. G. Cothi yn fuan ar ol cyrhaedd y Twr, nad oedd ei gyfaill Reinhallt adref, ei fod wedi croesi'r mynydd i Ddyffryn Clwyd, ac na ddychwelai hyd foreu dranoeth. Ond yr oedd Sion, ei frawd hynaf yno,-creadur caredig, diniwaid, yn benthyca ei holl oleuni bron oddiar Reinhallt, ac yn credu 'n ddiymwad nad oedd ei fath yn y byd. Ac yr oedd Morfudd a Gwenllian yno, y ddwy chwaer y soniasai 'r estron hwnw ar y mynydd am danynt. Megys mai y lle cyntaf yr edrych crydd arnoch ydyw eich esgid-"pawb at y peth y bo"-felly fel achyddwr yr edrychai Glyn Cothi