Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywylled fel nas gallent weled eu dwylaw. Pa fodd bynag, yn ngoleuni mellten canfyddent fod y cychwyr yn brydlawn; ac yn swn taranau dyruol agorasant yr hen ddor wichlyd, a gwelent fod gwyldanau y gwarchaewyr wedi eu diffodd gan y gwlaw trwm. D. ab Einion wedi eu hebrwng hyd y ddôr, a safodd yno fel y gallai eu derbyn yn ol drachefn os caent yn eu llwybr tua'r môr mai doethach iddynt ddychwelyd; a da hyny i Hanmer; canys yr un goleuni ag a ddangosodd ý bâd iddynt hwy, a'u dangosodd hwythau i'r gelyn, yr hwn a gododd waedd yn ei wersyll eu bod yn dianc o'r Castell; ac yr oedd pump neu chwech o wyr arfog yn ebrwydd yn nghyfarfod ein cyfeillion. Dychwelodd Hanmer yn y tywyllwch yn ol tua'r Castell, gan dybied y gwnelsai ei ddau gydymaith yr un modd. Ond hyrddiai dewrder Reinhallt ef yn mlaen ar lwybr ei benderfyniad ar draws pob rhwystr, a gafaelai ei was ffyddlawn yn dyn yn ei lawes. Tynodd ei gleddyf, ac ergydiai ar dde ac aswy, gan ymwthio yn mlaen at y dwfr; ac yna y trodd yn sydyn o'r naill ochr, a theimlai ei draed yn y môr, ond gan faint y tywyllwch nis gwyddai ond ar amcan pa le yr oedd y cwch. Pa fodd bynag, yr oedd y gelynion yn crynhoi yn gyflym i'r fan, a'u saethau damweiniol yn suo o amgylch, fel y tybiodd ein harwr mai gwell i Robin ac yntau gymeryd y dwfr a nofio, gan y gallent felly hwyrach daro wrth y cwch. Ychydig fynudau, a dyna fe, codwyd hwynt iddo yn wlybion dyferol—Robin nemawr gwaeth o herwydd ei drochiad anamserol, ond Reinhallt a saeth wenwynig wedi ei phlanu yn ei fraich. Tynwyd hi oddi yno yn ddiymaros, a'r gwas ffyddlawn a sugnodd y gwenwyn o'r archoll, gan ei boeri allan drachefn. Er hyny, dal i ferwino