yr oedd y briw. Rhwyfai'r cychwyr yn mlaen yn brysur yn ol cyfarwyddyd ein harwr yn nghyfeiriad Abermaw; gyda'r làn gan mwyaf, oddieithr fod crigyll i'w ysgoi; ciliodd y dymhestl i fwrw ei llid ar rhyw gwr arall o'r wlad; daeth y lloer a'r ser o'u llochesfeydd i loni gwyneb y ffurfafen eilwaith; ond dal yn anesmwyth yr oedd y fraich. Ceisiai Robin gysuro ei feistr trwy ddweyd nad oedd y gwayw ond effaith y pigiad yn unig; dyrchai y badwyr gân ysgafnllon er mwyn tynu sylw yr archolledig oddiwrth ei archoll; ond dal i frifo'n ferwinllyd yr oedd yr aelod. Amcanai y dyoddefydd ei hunan hefyd hudo ei feddwl i ymdroi yn mhlith adgofion bore oes, a phortreadu y mwynder a dderbyniai o gyfarfod ei anwyliaid ar adeg mor ddedwydd; ond erbyn iddynt gyrhaedd gyferbyn â'r Ganllwyd ar yr afon Mawddach tybed ei fod yn wir sylweddol!-yr oedd y fraich yn dechreu chwyddo. Er hyny, credodd yn y fan mai dychymyg pryderus yn effeithio arno fel ffaith oedd y cwbl, a thaflodd bob rhagofal i'r gwynt. Glaniasant yn Llyn y Penmaen, ychydig islaw Dolgellau, ac arosai y cychwyr hyd dranoeth i'w cymeryd yn ol: gan y dywedai Reinhallt, "Os nad allaf ddychwelyd i'r Castell, gallaf fod o rhyw wasanaeth i'm plaid yn yr ardal oddiallan." Cafwyd meirch i'w cludo yn ddioed tua phen eu taith. Cyrhaeddasant Ddrws y Nant; yr oedd y fraich ddolurus yn hawlio sylw drachefn; ac erbyn cyrhaedd pen uwchaf y rhiw tuhwnt i hyny, teimlai'r dyoddefydd lwybr yr anadl yn culhau,—arwydd fod y gwddf hefyd yn chwyddo. Oddiyno i'r Bala, ychydig mewn cydmariaeth a gafodd y boen o'i sylw; yr oedd yn arogli cartref byth er pan welsai yr afon Ddyfrdwy fabanaidd yn chwareu
Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/101
Gwedd