Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefo'r blodeu grug a dyfent ar erchwyn ei gwely. Ond erbyn cyrhaedd Llandderfel, yr oedd ei anhwylder wedi cynyddu yr fawr arno—prin y gallai sefyll ar ei draed; a da ydoedd ganddo na chyrhaeddasai ei gyfeillion ato a'i gael ef mor llesg. Nolwyd ato physigwr gwlad medrus oedd yn yr ardal, a rhoes hwnw rhyw lysiau rhinweddol ar y briw a liniarodd y boen, ac a barodd i'r claf hybu eilwaith; a lledodd bywyd ac iechyd eu cwrlidau dymunol drachefn o'i flaen. Ond y mae yn weddus i ni hysbysu, Pa faint bynag a ddyoddefodd ein harwr yn ei gorph ar y daith hono, ac yr oedd ei allu i ddyoddef yn fawr a'i bangfeydd yn aruthrol, nid oedd poen meddwl Robert Tudur ei was ychwaith nemawr llai-yr oedd ei ben wedi poethi fel ffwrn, a'i deimladau drylliog bron a'i ddyrysu.

PENOD XXIII.

Yn ystod yr egwyl hon ar boenau ein harwr, dyma'r cerbyd a gynwysai'r pâr ieuanc a Gwenllian yn cyrhaedd y dreflan, tan osgordd gref o filwyr y Twr, a phob un yn llawn bywyd a gobaith gweddaidd i ddiwrnod o'r fath. Cyfarchodd hwynt oll yn gynes a siriol, ond canfu llygaid craff y rhianod fod rhywbeth pwysig arno. Ceisiai yntau chwerthin ymaith eu ymholion pryderus; ond nid oedd wiw gwadu, rhaid oedd dadblygu'r holl helynt. Collodd y llysiau llesol yn fuan eu heffaith, a dychwelodd y pangfeydd yn fwy arteithiol nag o'r blaen, ac fel y cynyddent o awr i awr, erfyniwyd mor daer arno