Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyned i'w wely, fel y cydsyniodd o'r diwedd. Teimlai ef bellach, a gwelai pawb oddeutu fod digwyddiad pwysig gerllaw; darllenwyd ei ollyngdod yn ol ffurf yr Eglwys Sefydledig ar y pryd gan offeiriad a ddaethai i Landderfel y diwrnod hwnw i ddarllen y gwasanaeth priodas; ysgydwodd law yn garedig a Goronwy, gan ddiolch am y gwasanaeth a wnaeth iddo, a hyderu y gwenai Rhagluniaeth ar Forfudd ac yntau; Morfudd nis gallai ddal yr olygfa, ac enciliodd i ystafell arall; Gwenllian a sychai y chwys oer oddiar ei dalcen hardd, ac a wlychai ei wefusau seriedig âg ychydig win—ar ei gais hi a'i cusanodd yn serchus; yna efe a sisialodd yn floesg, "Cofiwch i gyd am blentyn y gelyn Ionofal fach!" Canodd yn iach i'r gosgorddlu un ac oll-dynion haiarnaidd amryw o honynta fuasent gyda'u penaeth yn Nghaer a manau eraill—nis gallent hwythau ddal yr olygfa. Yr oedd Robin, druan, wedi rhwystro yn lân, yn llefain fel plentyn, ac yn ymgreimio hyd lawr. Dymunodd y claf ar i Wenllian droi ei wyneb tua chartref, a chan edrych trwy'r ffenestr agored ar lechweddau gleision yr ardal brydferth o'i flaen, llonyddodd y llygaid dysglaer hyny yn araf deg, daeth yr anadl yn ferach, ferach, ac nid oedd yn aros o'r dyn hardd, dewr, a da, Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr ond y llwch teg i ddychwelyd yn llwch eilwaith. Dygwyd y llwch hwnw yn barchus i'w gladdu yn Macpela'r teulu yn Nyffryn Alun; a'r oedran cerfiedig ar gauad ei arch ydoedd 28ain oed. Efe a fu farw'n ieuanc, er iddo fyw yn hir.

Y mae fy ngwaith i bellach fel ysgrifenydd rhamant "Reinhallt ab Gruffydd o'r Twr" ar ben. Gair arall am dreigliad rhai o gymeriadau blaenllaw y chwedl: