gyntaf ar bawb. Tarawyd ef yn y fan fod gwaed Normanaidd yn y teulu, a bod pryd a gwedd Gwenllian, beth bynag, yn dwyn delw y welygordd ddewr a groesodd i'r Ynys hon gyda Gwilym y Gorchfygwr, o ba un yr ymsefydlodd cynifer yn arglwyddi ar Gyffiniau Cymru, gan briodi Cymryesau, a chyflwyno i'w plant daldra corphorol a balchder ysbryd y tad yn gyfunol a thłysni wynebpryd a bywiogrwydd tymher y fam. Wrth syllu a gwrando ar Forfudd, y chwaer ieuengaf, methai ddyfalu pa un i'w edmygu uwchaf, ai gwynder ei gwedd liliaidd, cochni cwrelaidd ei gruddiau a'i gwefusau, ei ffurf luniaidd, ei gwallt du modrwyog, ynte ysgafnder ei hysbryd a ffraethineb doeth ei hymadroddion. Meddyliai wrth edrych arni am ddwy fraich o gywydd a ganasai Dafydd ab Gwilym i Elen Lueddawg:
"Yr hon a beris yr ha'
A thrin rhwng Groeg a Throia."
Braidd na synasai fod gauaf yn ymweled âg Ystrad Alun ar ol i'r rhian hon wisgo ei gwên berswynol o'i fewn; ac nid oes anmheuaeth na bu Morfudd (yn anfwriadol mae yn wir) yn achlysur aml i frwydr law-law, ac unwaith neu ddwy bu ornestau mwy gwaedlyd am ei ffafrau. Buasai hen naddwyr Groeg a Rhufain yn falch o'i cherflunio a'i chwanegu at eu Ceinion, ac ni ddiystyrasai Cattwg Ddoeth luaws o'i hymadroddion synwyrgraff.
Yr oedd tlysni Gwenllian yn perthyn i ddosbarth arall. Prin y gellid dyweyd fod ei hwynebpryd hi i fyny â safon tlysineb clasurol. Cyfliw oedd ei gwallt a'r eiddo Llio Rhydderch, am yr hon y dywedai Dafydd Nanmor:
"Ai plisg y gneuen wisgi?
Ai dellt aur yw dy wallt di?"