Yr oedd y Norman yn lled amlwg yn y gwallt hwnw. Ond er na feddai Gwenllian degwch caboledig Morfudd, yr oedd natur wedi ei chynysgaeddu hithau a theithi rhagorol eraill—agosrwydd cynhesol yn tarddu oddiar galon serchus a'i gwnelai yn gryfach gwrthddrych serch nag hyd yn nod ei chwaer brydferth.
Yr oedd yno hefyd lanc ieuanc o filwr o osodiad gwisgi a phryd a gwedd teg a dymunol; ac ni fedrai Glyn Cothi ar faes medion y ddaear ddyfalu i'w lawn foddlonrwydd pwy ydoedd nac o ba le yr hanyw. Nid oedd yn un o'r teulu, ond casglai 'r Cofiadur craff, oddiwrth amrai fân bethau, ei fod ar y llwybr oedd yn arwain i hyny. Ei enw ydoedd Goronwy ab Gredifel. Yn yswil foddhaus yr edrychai Morfudd arno; ond gwaith parhaol Gwenllian wrth siarad âg ef ydoedd ymryson crasineb "ofregedd" (gwerinair arferedig yn y parth hwn o'r wlad am gellwair, ysmalio, &c.); a Gwenllian, rhaid cydnabod, oedd y ddoniolaf gyda'r gwaith o ddigon. Cyfeiriai at Forfudd fel ei "ddyweddi," —" Diweddi yn wir!" ebai hi, "y mae hi yn cyfrif ei phaderau lawer gwaith yn y dydd, ac yn ymgroesi cyn fynyched a mynaches." Gwridai'r ddau at eu clustiau, a mwngient mai eiddigus ydoedd hi am nad oedd daro arni hithau. "Os nad yw carwriaeth yn rhywbeth amgen i daro," ebe'r gellweires lawen, gwared ni rhagddo." Yna torai allan i suo-ganu yr hen benill sydd ar lafar gwlad hyd y dydd hwn, ond a gyfansoddwyd, mae yn dra thebyg, gan rhyw awenydd Lancastraidd yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau:
"Dacw 'nghariad i ar y bryn,
Rhosyn Coch a Rhosyn Gwyn;