Rhosyn Gwyn sy'n bwrw 'i flodau,
Rhosyn Coch fydd fy nghariad inau."
Pa gyfaredd oedd yn y pedair llinell gyffredin hyn i Oronwy ab Gredifel? Y mae yn gwrido o glust i glust; trwy fawr ymdrech y ceidw wên ar ei enau; ac etyb hi wedi mòni braidd,
"Na, Gwenllian," ebai ef, "ni chyll y Rhosyn Gwyn mo'i flodeu tra rhed dwfr yn afon Alun; tra bo rhianod teg yn rhodio'i glanau; a thra bo chwiorydd i wisgwyr y Rhosyn Coch yn
"Yn ba beth?" ebe Morfudd, yr hon a darawodd i mewn i'r cwmni; cam-enw ydyw galw y galanastra gwaedlyd presenol yn 'Gad y Rhosynau.' Cabledd ar addurniadau per yr ardd a'r maes. Mwy gweddus eu galw ar enw Wermod, Cegid, neu rhyw lysieuyn chwerw neu farwol arall, os rhaid ydyw myned i faes dilychwin natur i fenthyca enwau ar greulonderau y ddwyblaid sydd yn rhwygo'r wlad yn llarpiau yn y dyddiau hyn."
"Gwir, gwir," ebai Lewis, "fel y rhwyga blaidd rheibus yr oen bach, fel y rhwygodd cwn annwn Caer fy eiddo i oddiarnaf,
"O mynasant fy na mewn naw-sach,
Naw ugain mintai o gwn mantach;
Mynwn pe'u gwelwn hwy'n gulach-o dda
Yn moel y Wyddfa yn ymleddfach.
Y dwr a'u boddo tra fo tref iach
Y tân a'u llosgo peten' llesgach;
Yr awel a'u gwnel gan' niwlach-gwinau
Ond yr eglwysau yn dir glasach."
Ond
"Eu crwyn a'u hesgyrn crinion—a'u gàrau
A dyr gorŵyr Einion
Yn mhob mangre'n Nghaerlleon
Efe a ladd fil a'i òn."