"Dyna gylymu iawn "ebai Goronwy," gwaith y bardd o Lyn Cothi, mi dyngaf."
"Darnau o awdl a wnaeth y prydydd hwnw," ebai Lewis, "heddyw'r prydnawn yn chwerwdod ei enaid i Saeson Caer."
"Penygamp," ebai Morfudd.
"Ystwythber," ebai Gwenllian.
"Diolch yn fawr i chwi," ebai'r prydydd. "Y mae canmoliaeth rhai pobl yn werth ei gael, ac yn haeddu ei brisio. Ond at hyn yr wyf fi yn cyfeirio; Goronwy ab Gredifel, nis gwn pa'r un yw dy blaid di, er nad oes angen dewin ychwaith i wybod. Yr wyf yn dy hoffi am dy fod yn Gymro; yr wyf yr un modd yn hoffi Rheinallt ab Gruffydd, er nas gwelais ef eto, am ei fod yn Gymro, ac nid am ei fod yn pleidio teulu teyrnlinach Lancaster. Lancaster a York, beth ydynt ini? Bum i yn filwr i Siasper Tudur, ewythr frawd ei dad i Harri Tudur, ffoadur yn awr yn Ffrainc, a'i bleidwyr er hyny yn hyderus y gwelant ef cyn hir yn llawio teyrnwialen Prydain; ac yr wyf hefyd wedi canu i Syr William Herbart, ac i Syr Risiart ei frawd, dau Gymro nad oes yn myddin Iorwerth eu dewrach. Nyni y Cymry sydd yn ymladd, a'r Saeson yn ein hanos; nyni sydd yn dioddef, a hwythau'n byw'n fras ar eu bloneg. Cymerwch fi yn esiampl—ydwyf fel llwdn wedi ei gneifio yn nyfnder gauaf."
"Ni ddylit gwyno mor dost," ebai Goronwy, "diolch ar dy ddeulin i Fair a'th angel a ddylit, a dweyd dy bader ac ymprydio dridiau."
"Paham?"
"Gwrddaist ti ddyn ar y tir gwyllt heno?"
"Dyn, neu yspryd cyn wyllted a'r tir."