Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dy angel gwarcheidiol ydoedd; Robin Bondigrybwyll,"

"Tybiais mai yspryd y Cwtta Gyfarwydd ydoedd," ebai Lewis, "heb hamdden i ddodi dim yn ei frawddegau ond berfau ac enwau. Pa le y treiglodd a pha bryd y dychwel?"

" Y mae treigl Robin fel llwybr y gwynt, yn anhysbys i bawb ond efe ei hunan; ac i ba drybini bynag y dringo, efe a ddisgyn fel cath o bren yn iach ddiangol ar ei draed. Un o anwyliaid rhagluniaeth ydyw Robin. "Hyn a ddywedaf," ebai'r llanc, "yr oedd gwyr Caer fel dywalgwn yn dy ymlid di heno; a phe daethent o hyd i ti ni buasai ond "Hwi'r Cwta, a Hwir Coch," am dani; a buasai Lewis Glyn Cothi yn mhlith y beirdd ymadawedig. Yr oedd Robin a minau yn dy wylio di a hwythau o ben y Twr yma; ac yn fuan iawn diflanodd Robin; efe, mae'n ddiau, a'u taflodd oddiar dy drewydd. Y mae Bondi. yn dod i'r gwyneb bob amser y byddo ei eisiau."

Treuliwyd rhai oriau fel hyn yn taflu golwg dros bethau. Yr oedd Sion yn y cwmni, ond rhan fechan a gymerai yn yr ymddiddan. Yr oedd yn amlwg nad edrychai Sion yn ffafriol ar ymweliad Goronwy, canys anesmwythai a gwridai pa bryd bynag yr edrychent yn llygaid eu gilydd. Yr un mor amlwg hefyd ydoedd, fod enwi Reinhallt yn peri anesmwythder i Oronwy; ac oddiwrth hyn hawdd casglu nad oedd Reinhallt ac yntau yn gyfeillion, ac fod yr ymweliad hwn yn ddiarwybod i'r blaenaf.

Ond daeth y swper i'r bwrdd, a dyneswyd ato yn ddiolchgar, er na chynwysai ond ffrwyth y gerchen. Ni chaniatai caledi yr oes waedlyd