hono i gigfwyd ond anfynych hulio byrddau hyd yn nod y pendefigion. Rhwyddheid llwybr y rhynion gan y medd archwaethus, ac yr oedd blas blodeu persawr Ystrad Alun yn melysu pob dyferyn o hono. Ac wedi bwyta o bawb ei wala, dygwyd hen delyn y teulu yn mlaen, a rhedodd bysedd meinion Gwenllian ar hyd ei thànau gan dynu mêl-odlau o'i chrombil, na ddaw eu bath ond o'r offeryn cerdd cenedlaethol Cymreig yn nwylaw menyw deg. "Hun Gwenllian" oedd yr alaw a chwareuid, ond cyfaddasai'r datganwyr gerddfesurau eraill at y miwsig. Tarawodd Goronwy i fewn yn nghyntaf:
"Er nad wyf ond prydydd gwan,
Mi folaf Ddyffryn Alun;
Swynion fil sy' yn y fan,
A gwenau haul a gwanwyn,
Ydyw gwenau yn y Twr
Dewr effraw Dwr y Dyffryn."
Yna cymerwyd edefyn y gerdd i fyny gan Sion ab Gruffydd:
"Os dewis dyn y Rhosyn Coch,
Dilyned hwnw'n dyn,
A dywedaf fi ' yn iach y b'och'
Wrth onest Rosyn Gwyn;
Boed pawb yr un ar faes y gad
Ag ar yr aelwyd glyd,
Gogoniant penaf tref a gwlad
Yw dynion cywir fryd."
Cyn i'r penill ddwyn yr effaith a ddymunai ei ddatganwr, dechreuodd Morfudd—
"Po gwynaf y croen a pho cochaf y ddeurudd,
Tlysaf i gyd a fydd gwrthddrych y serch;
Po cryfaf fo lliwiau y wawrddydd ysplenydd,
Harddaf i gyd yn meddwl pob merch;