Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.

CYN caniad y ceiliog boreu dranoeth, agorodd dorau cedyrn y Twr i ollwng trwyddynt arwr y lle. Yr oedd wedi marchogaeth tros Fwlch Pen Barras o Ddyffryn Clwyd gefn trymedd y nos; ac yn yr oes hono cyflawnasai weithred arwrol, pan gyfaneddid pob twmpath a thwyn gan fodau annaearol dychrynllyd, a chan fodau daearol mwy dychrynllyd fyth, sef gwylliaid llofruddiog, na phrisient fywyd dyn yn uwch na bywyd llwynog—y ddau i'w lladd er mwyn yr hyn a geid arnynt. Ac er cryfed ei gyfansoddiad, galwai cwsg am ei deyrnged ganddo yntau; ac wedi ymollwng i afaelion y duw swrth, anhawdd dyfod o honynt. Yr oedd y teulu oll yn ymlwybro er's hir amser cyn iddo ef ymysgwyd o'i anymwybodolrwydd.

Yr oedd Goronwy wedi gadael y Twr erbyn i Lewis godi boreu dranoeth, a chafodd y bardd awgrym neu ddwy led ddiamwys gan y rhianod nad oedd i son am dano wrth eu brawd. Mawr oedd ei awyddfryd, pa fodd bynag, i weled Reinhallt; a rhwng dychymygu pa fath un ydoedd, llunio barnedigaethau newyddion ar wyr Caerlleon, ac ymgyfarchwel lled fynych â'r ysgrepan ledr, treuliodd er ei waethaf rai oriau lled farddonol y boreu hwnw.

O'r diwedd, clywai y disgwyliwr awyddus swn traed yn nesu'n frysiog at yr ystafell yr eisteddai ynddi; agorwyd y drws yn sydyn; neidiodd y bardd ar ei draed; safasant am fynud neu ddau gan edrych yn siriol yn myw llygaid eu gilydd; ac yr oedd cymaint o hynawsedd yn llygaid Reinhallt ac o onestrwydd yn llygaid Lewis, fel y toddodd