teimladau y ddau ar fyrder yn llymaid o gyfeillgarwch. Credai'r bardd na welsai erioed harddach dyn. Gwawr ei 25ain mlwydd yn dechreu ymdywallt ar ei wyneb tirf. Dwy lath o daldra, gan sythed a brwynen, ac o gymesuredd difeius, yr hyn a wnelai ei gerddediad ysgafned a rhodiad rhian deg fraich yn mraich â'i chariadlanc yn y ddawns. Duach oedd ei wallt nag aden y gigfran, cochach ei ddeurudd na rhuddwaed brwydr. Cyfliw ei lygaid a nos dywell, a dwy ganwyll o'u mewn fel dwy seren ddysglaer; bwaog ei drwyn fel eryr eryrod Eryri. Iraidd ei farf fel glaswellt ieuanc tan fanwlith Mai; lluniaidd a llyfn ei dalcen a'i wddf a phe naddesid hwynt o'r marmor gwynaf. Ei fysedd o liw ac o lun blodeu tyner yr anemoni; a'i freichiau mor gedyrn a chyhyrog a cheinciau derw, fel pe buasai natur garedig wedi eu planu yno o bwrpas i amddiffyn y ty hardd hwnw yn yr oes waedlyd hono rhag niwaid. Bardd, mae yn wir, oedd Lewis, yn tremio ar wrthddrychau trwy chwydd-wydrau yr awen; ond efe a feddyliodd wrth edrych ar ein harwr am Sandde Bryd Angelun o'r tri a ddiangodd a'i hoedl ganddo o Gad Gamlan gynt,—pawb dybient mai angel o'r nefoedd ydoedd.
"A thydi ydyw Lewis Glyn Cothi?" ebai Reinhallt, "adwaen dy enw, darllenais dy waith, a chlywais dy ganmol; oni phriodaist weddw yn Nghaer? ac oni phreswyli di yno? Pa fodd mae'r Cwn y dyddiau hyn? Nid yw'r dyddiau hyn yn "Ddyddiau'r Cwn." Y maent fel y creadur is hwnw yn ngraddfa cread:
"Chwefror chwyth
Ni chwyd y neidr oddiar ei nyth."