Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Codant, hwy a godant, wron," ebai Lewis, "er mai nadrodd sleimllyd ydynt oll o Robert Brown, eu cynfaer lladronig, hyd Sion y Crythor Cymreig fradwr halogedig yn erbyn ei wlad a'i Dduw, a wystłodd ei grwth rhinclyd a hyny o dalent garbwl sydd ganddo i foddio blysiau estroniaid, a chlepian pobpeth a wyr wrth yr awdurdodau am ei gydwladwyr gorthrymedig. Ei geg ffals ef a agorodd, ac ohoni y daeth fy holl anffodion i. Ti a wyddost, wron, am yr ysbryd hwnw o eiddo Iorwerth Hirgoes, sydd yn parhau i boeni ein cenedl, ar lun deddfau gorthrymus yn erbyn y Cymry; ac y mae yn eu mysg gyfraith yn atafaelu meddianau pa Gymro bynag a briodo Saesnes. Minau yn ddifeddwl a droseddais y ddeddf anfad hono, mi a briodais Doli Cheshire, menyw 'ffamws' yn ol ein hiaith ni yr Hwntwys. A dyma fi ger dy fron gan dyloted a llygoden eglwys—heb ddim ond yr ewinedd. Fy holl eiddo wedi ei yspeilio a'i dynu trwy ddanedd Cwn Caer. Reinhallt ab Gruffydd ab Bleddyn ab Dafydd ab Grono ab Einion, ac felly yn mlaen hyd Fleddyn ab Cynfyn, a phob ab o honynt yn Gymry gwladgar, a digon o ddur yn eu gwaed ac o nerth yn eu breichiau a thân yn eu calonau i losgi yn ulw bob gorthrwm, ac i ladd yn gelain bob gorthrymwr! yr wyf yn atolygu arnat ddial fy ngham. Ac yn fy nghamwri i, ystyr y camwri a dderbyniodd fy nghenedl, canys y mae i estron-genedl sarhau person unigol o genedl arall yn sarhad ar y genedl hono. Rhaid rhoddi'r ysbryd gorthrymus hwn i lawr. Pwy sydd ddigonol i'r gwaith? Rhodder gwlad y treiswyr yn oddaith, a dechreued y goelcerth yn Ngaerlleon. Pwy ond tydi Reinhallt? Onid oes waed