Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cynfrig Efell yn dy wythienau, ac onid yw y gwaed hwnw yn awr yn chwyddo dy wythienau, ac yn rhuddo dy ruddiau?

I Reinhallt mae cledd ar groenyn—yn graff,
Ab Gruffydd ab Bleddyn;
Rhag hwn yn curo canyn'
Y Gaer grach a'i gwyr a gryn.

Y mae natur wedi gwneyd Reinhallt yn filwrwedi rhoddi iddo gorff hardd a braich gref Filwr! diosg dy fraich; amddiffyn dy wlad, dy wlad anwyl sydd yn gwaedu tan fflangell y gelyn. Par i'r gelyn son am danom eto, megys cynt, fel cenedl o bobl ddewrion, ac nid llyfrgwn diamddiffyn. A bydd di flaenor arnom. Arwain ni i ddedwyddwch cenedlaethol, a'th hunan i orsedd gogoniant a pharch."

Gwrandawai Reinhallt ar yr araith apeliadol hon gyda chalon agored. Ffaglai ei lygaid yn fynych gan ddigofaint, a rhedai ei law ddeheu yn ddiarwybod iddo at garn ei gleddyf, ac yr oedd lluaws o eiriau y bardd yn ei daro fel ergydion gwefrdan. Buasai dyn drwg-dybus yn amheu ai nid ffalsedd oedd y molawdiau hyn, ond boneddwr mawrfrydig oedd Reinhallt yn cymeryd dyn ar ei air; ac y mae yn ddilys hefyd nad oedd geiriau tanllyd y bardd ddim amgen na'i deimladau gwirioneddol wedi eu gwisgo mewn iaith. Y mae rhagrith yn un o'r trethi hyny y rhaid i oesau "caboledig" ei thalu am eu gwareiddiad; yn yr oesau "anwaraidd," dyfethid rhagrithwyr ffals fel creaduriaid annheilwng i fwynhau bendithion bywyd.