Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD VI.

YN mrig yr un hwyr, cyfarfu dau ddyn ar un o heolydd Caerlleon. Dau Gymro oeddynt, ac oddiwrth ddull cynes eu cydgyfarchiad, hawdd canfod fod cydnabyddiaeth flaenorol rhyngddynt. Gwladwr gwledig ei ddiwyg oedd y cyntaf, a thipyn o lygad croes ganddo, gwridgoch, byr a llydan o gorph, byrbwyll a sydyn o osodiad; a'r ail ydoedd filwr ieuanc o swyddog gwisgi, tal, unionsyth, rhadlon, deallgar, a Rhosyn Gwyn yn ei gap.

"Bondigrybwyll," ebai'r gwladwr, tan ysgwyd llaw ei gyfaill, "llaw yn llaw, calon wrth galon. Goronwy, beth sydd yn y gwynt?"

"Baner Iorwerth frenhin sydd yn y gwynt," ebai'r swyddog, "a phen moel Harri'r Chweched sydd yn y gwynt; a'r nifer luosocaf o'i Castriaid[1] wedi myned allan o fyd y gwynt, i wlad tyrchod daear. Aethant yno o faes rhyfel Hexham, yr wythnos ddiweddaf. Glywaist ti mo'r hanes Robin?"

"Na chlywais," ebai Robin, "er cynted y teithia newydd drwg, cymerodd hwn yna wythnos i gyrhaedd fy nghlustiau i. Bondigrybwyll, breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys, mae'n debyg, Goronwy?"

"Uchenaid gwrach ar ol ei huwd, Robin bach," ebai Goronwy, "ni waeth i ti beidio ceisio dileu sylwedd caled, y mae'n ffaith anwadadwy fod

  1. Llysenw ar ddilynwyr neu bleidwyr llinach frenhinol Lancaster a'i Rhosyn Coch.