Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Harri bellach yn ffoadur truenus yn ngwisg bugail, o gynefin i gynefin y dydd, ac o ogof i ogof y nos; ac y mae Robert Brown, cynfaer y ddinas yma, yn dathlu'r fuddugoliaeth heno mewn gwledd. Adwaenit ti Robert Brown?"

"Bondigrybwyll, ffwl a chythraul mewn croen llo," ebai Robin, "ac y mae'n debyg y byddi dithau yn ei wledd? Adar o'r unlliw ehedant i'r unlle!"

"Yr wyf yn un o'r gwahoddedigion," ebai'r milwr, "ond nid yw'r dyddiau drwgdybus hyn yn caniatau i ddau Gymro ymddyddan yn hir ar yr heol. Ymneillduwn am gorniad o fetheglin i Westy'r Baril."

Cerddasant yn araf at dafarndy a safai ar gwr gorllewinol y ddinas gaerog, ac un o'r tai talaf ydoedd yn Nghaerlleon, a llechweddau dwyreiniol swydd Flint i'w gweled yn amlwg o hono ar dywydd clir, yn enwedig o'i ystafellau uwchaf. I un o'r goruwch-ystafelloedd hyn y dringodd y ddau, modd y caent lonydd a thawelwch oddiwrth y genfaint feddw a heigient waelod y gwestty. Goruwch y niwl a ddechreuai ymgodi oddiar y Ddyfrdwy tremiai y milwr yn edmygus ar ei wlad enedigol; tra yr oedd Robin yn cadw ei lygad yn ddibaid ar allt yr Hob; i ba beth, nis gwyddai ei gyfaill. Yna cymerasant edefyn eu hymddyddan blaenorol i fyny.

"Y mae yn ddrwg genyf dros Harri," ebai Goronwy, "er mai chwelan penfeddal ydyw."

"Duw helpo pob dyn sydd yn wrthddrych tosturi Brogiad,"[1] ebai Robin.

  1. Llysenw pleidwyr llinach frenhinol Caerefrog, a'i Rhosyn Gwyn.