Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Rheinallt ab Gruffydd.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mèn wichlyd ydyw mèn heb ei hiro," ebai'r ddewines.

Meddyliai Goronwy fod mawr a dwfn wybodaeth y ddewines wedi dyrysu ei synwyrau. Wyt ti yn ynfydu, dywed?" ebai ef.

"Welaist ti ynfyd erioed a wrthodai weithio cyn cael tâl. Myn holl swynwyr yr Aipht, ac astronomyddion Caldea, a phrophwydi Baal duw Ecron, nid agoraf fy mhig i ateb gofyniad arall o'r eiddot, oni theli imi aur ar fy llaw. A chofia di, filwr, na wna rhyw farciau Castriaidd diwerth sydd ar led gwlad y dyddiau hyn mo'r tro i mi. Aur, aur treigliadwy, neu ni waeth i ti anerch Moel y Fenlli ar lafar na minau."

"Nid oes genyf aur; ond dyma i ti ddarn o arian;—y mae arian gan Gymro cystal ag ydyw aur gan Sais."

Ac yr oedd yn amlwg ddigon y credai yr hen wrach fod arian mewn llaw yn well nag aur ar dafod. "Pa beth a fynit ti â'r, oraclau, filwr?" ebai hi.

"Mi a fynwn wybod a rydd tynged i mi y ferch a garaf."

Goleuodd Cadi ganwyll frwynen, er mwyn ymgynghori a'i llyfrau; ac os oedd yn bosibl perffeitho yr ymgnawdoliad hwnw o grasineb trwy ychwanegu at grasineb y llais a lefarai fel oracl yn y tywyllwch, yr oedd y cyfryw chwanegiad mae yn ddiau i'w gael yn ymddangosiad garw yr hen Gymraes hirben tre yn troi y naill ddalen o femrwn ar ol y llall wrth oleuni gwan y frwynen. Trodd luaws o ddalenau yn olynol, ond ni chredai Goronwy ei bod yn darllen dim; yn wir yr oedd yn amheus iawn ganddo a allai hi ddarllen o gwbl.